Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber, ger Bangor

Beth sydd yma

Croeso

Bu’r rhaeadr ysblennydd a welir yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber yn boblogaidd gydag ymwelwyr ers Oes Fictoria.

Mae’r Rhaeadr Fawr yn disgyn o Fynyddoedd y Carneddau gan blymio i fasn dwfn yn nyffryn yr afon islaw.

Ar hyd yr oesau, gadawyd ôl hinsawdd, daeareg a dyn yma, ac mae digonedd i’w weld ar y ffordd drwy’r dyffryn at y rhaeadr.

Ceir ardaloedd agored o laswelltir a choetir, sy’n cynnwys deri, cyll a gwern, sy’n gartref i lawer o adar gwahanol.

Am ei bod hi mor llaith ger y rhaeadr ac ar hyd yr afon, dyma amodau delfrydol ar gyfer amrywiaeth o fwsoglau, llysiau’r afu a rhedynnau, a chofnodwyd dros gant o rywogaethau o gen yma.

Mae yma nifer o nodweddion archeolegol diddorol hefyd, gan gynnwys bryngaer o’r Oes Haearn ac olion sawl cwt crwn hynafol.

Llwybr cerdded

Ceir arwyddbyst ar y llwybr cerdded sy’n cychwyn o’r maes parcio.

Mae llwybr rhwyddach ar ddechrau’r llwybr i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn trydan – chwiliwch am yr arwyddion.

Llwybr Rhaeadr Fawr

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 2¼ milltir/3.7 cilomedr (yno ac yn ôl))
  • Amser: 1½ awr (yno ac yn ôl)

Dilynwch yr arwyddbyst melyn tuag at y llwybr ar hyd gwaelod y dyffryn sy’n arwain drwy goetir a glaswelltir agored at droed y rhaeadr.

Ceir meinciau ar hyd y ffordd.

Mae’r daith yn ôl yn dilyn yr un llwybr.

Woman on Aber Falls Walk

Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Mae Coedydd Aber yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Yn ystod y flwyddyn, mae'r dirwedd yn newid yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber.

Yn dibynnu ar ba adeg y byddwch yn ymweld â'r safle, rydych hefyd yn debygol o weld gwahanol enghreifftiau o fywyd gwyllt.

Parhewch i ddarllen i gael gwybod beth y gallwch ei weld yma yn ystod y tymhorau gwahanol.

Beth sydd i’w weld yn y gwanwyn

Mae poblogaeth adar y coetir yn cynyddu yn y gwanwyn oherwydd dyfodiad bridwyr mudol, megis:

  • Gwybedogion brith
  • Telor y Coed
  • Tingochion
  • Gylfingroesion

Mae llawr y coetir, sy'n cynnwys coed onnen a llwyfenni llydanddail, o dan orchudd mawreddog o glychau'r gog ac anemonïau'r coed.

Ar y ffridd (y tir rhwng gwaelod y cwm a rhannau uchaf y mynydd) mae'r drain gwynion a'r coed afalau sur yn creu môr o flodau gwynion ym mis Mai.

Beth sydd i’w weld yn yr haf

Menyw ar fainc yn yr haf

Caiff y gwerni eu rheoli'n ddiogel drwy fondocio rhai o'r coed yn eu bro, sy'n arwain at ffrwydrad trawiadol o flodau erwain yn yr haf.

Mae'r coetir yn gartref i amrywiaeth o adar megis y gnocell fraith fwyaf a'r gwalch marthin sy'n bwydo ar lawr y coetir llydanddail a'r goedwig gonifferaidd gerllaw.

Drwy gydol yr haf gallwch hefyd weld y rhywogaethau adar canlynol:

  • Gwybedogion brith
  • Telor y Coed
  • Tingochion
  • Gylfingroesion

Mae'r afon, sy'n llifo'n gyflym, yn gynefin i'r trochwr a'r siglen lwyd, tra bod y ffridd (y tir rhwng gwaelod y cwm a rhannau uchaf y mynydd) yn denu rhywogaethau megis corhedydd y coed a'r gynffonwen.

Weithiau, gellir gweld mwyeilch y mynydd, cigfrain a haid o frain coesgoch ar lethrau agored y mynyddoedd ac ar y wal garreg serth sydd ar ben pellaf y cwm.

Beth sydd i’w weld yn yr hydref

Wrth i'r dyddiau ddechrau byrhau, mae'r coed yn paratoi am y gaeaf ac mae'r cwm yn glytwaith dramatig o liwiau coch, oren, brown a melyn.

Beth sydd i’w weld yn y gaeaf

Mae'r rhaeadr drawiadol, sef y prif atyniad i nifer o ymwelwyr â Choedydd Aber, yn creu argraff arbennig yn ystod y gaeaf.

Mae llawer o'r adar mudol yn gadael y warchodfa am leoedd cynhesach, ond gellir gweld y rhywogaethau sy'n aros dros y gaeaf, megis y trochwr a'r siglen lwyd o hyd drwy gydol y misoedd oeraf.

Gwybodaeth am hygyrchedd

Menyw yn cerdded ar lwybr

Mae lle parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ym maes parcio isaf ac uchaf.

Mae gan y llwybr i’r rhaeadr (o’r giât ger y maes parcio isaf) ddringfa raddol a pharhaus o 100m/330tr.

Mae’n 1.5m o led gydag arwyneb o gerrig wedi’u gwasgaru a rhywfaint o raean rhydd.

Mae gan y gatiau gloeon RADAR i’w hagor yn llawn.

Mae toiledau hygyrch ar gael yn y maes parcio uchaf.

Amserau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Fel rheol, mae gât y maes parcio a'r toiledau ar agor rhwng:

  • 7.30am a 5pm (1 Hydref tan 31 Mawrth)
  • 7am a 7pm (1 Ebrill tan 30 Medi)

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Aber 7 milltir i’r dwyrain o Fangor.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfarwyddiadau 

Trowch oddi ar yr A55 ar gyffordd 13 i gyfeiriad Abergwyngregyn. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown a gwyn am Raeadr Aber o’r pentref ac ar hyd is-ffordd gul. Mae’r maes parcio isaf ymhen ½ milltir ar y ffordd hon ac mae’r maes parcio uchaf yr ochr arall i’r bont.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coedydd Aber ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 664 718.

Cludiant cyhoeddus

Mae'r orsaf drenau agosaf yn Llanfairfechan (mae'n arhosfan ar gais).

I gael manylion am gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae dau faes parcio bach ger man cychwyn llwybr y Rhaeadr Fawr. Fe’u cyrhaeddir ar ffordd gul (un trac) drwy bentref Abergwyngregyn.

Mae'r ddau faes parcio yn llenwi'n gyflym, yn enwedig ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol, gan arwain at dagfeydd difrifol ac oedi hir ar ddiwrnodau prysur.

Fe'ch cynghorir i osgoi gyrru drwy bentref Abergwyngregyn i gyrraedd y meysydd parcio hyn ac i barcio cyn cyrraedd y pentref.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Maes parcio is (ger y Bont Newydd)

  • Tâl parcio o £5 (darnau arian yn unig)
  • 16 o leoedd parcio
  • Cewch barcio am ddim os ydych yn ddeiliad bathodyn glas.

Maes parcio uchaf

  • Tâl parcio o £5 (darnau arian yn unig)
  • 20 lle.
  • Toiledau.
  • Caiff gât y maes parcio ei chloi bob nos.
  • Cewch barcio am ddim os ydych yn ddeiliad bathodyn glas.

Maes parcio am ddim

Mae maes parcio am ddim ar gael cyn ichi gyrraedd pentref Abergwyngregyn.

Trowch oddi ar ffordd A55 yng Nghyffordd 13 lle ceir arwydd Abergwyngregyn. Dilynwch yr arwyddion P i’r maes parcio am ddim sydd ar y chwith yn hytrach na dilyn y ffordd sy’n arwain i fyny drwy’r pentref.

Mae’n cymryd tua 30 munud i gerdded o’r maes parcio hwn at fan cychwyn Llwybr y Rhaeadr Fawr (ar y ffordd byddwch yn mynd heibio Caffi Hen Felin). Byddwch yn ymwybodol o’r traffig gan fod y ffordd yn gul iawn mewn mannau.

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf