Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
Mae system un ffordd dros dro ar Lwybr Coed Tan Dinas. Mae rhan o’r daith hon bellach yn dilyn y llwybr trwy’r goedwig at ffordd y Cyngor ac mae wedi ei graddio’n gymedrol yn hytrach na hawdd.
Mae rhai pyst rheoli cyfeiriannu nad ydynt yn hygyrch - dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau sydd ar y safle, os gwelwch yn dda.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Parc Coedwig Gwydir yn amgylchynu Betws-y-coed, un o bentrefi harddaf Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae ein llwybrau cerdded sydd wedi’u marcio, yn cychwyn o’r pentref ac yn cynnwys llwybr beicio hawdd, dringfeydd serth i fyny bryniau coediog sydd â golygfeydd pellgyrhaeddol, a theithiau cerdded o amgylch llynnoedd prydferth.
Edrychwch ar ein paneli gwybodaeth ym maes parcio Pont y Pair neu prynwch ganllaw cerdded o Ganolfan Wybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r llwybrau cyfeiriannu drwy Barc Coedwig Gwydir yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.
Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair yng nghanol Betws-y-coed (ar wahân i Daith Llyn Elsi sy’n dechrau y tu ôl i Eglwys Santes Fair).
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Cerddwch y daith gerdded hawdd, fer, o dan goed pinwydd Douglas tal a mawreddog, a rhai ohonynt hyd at 100 mlwydd oed.
Dewch o hyd i’r arwyddion ar hyd y llwybr i ddysgu ffeithiau am y coed.
Gallwch hefyd gasglu taflen ar ddechrau’r llwybr ar gyfer y Llwybr Darganfod Anifeiliaid neu llwythwch gopi i lawr o waelod y dudalen hon.
Troi cefn ar fwrlwm Betws-y-coed ar y daith gerdded hon gyda golygfa drawiadol dros y dref ar ôl dilyn llwybr troellog drwy binwydd Douglas mawreddog.
Er eich bod ymhell uwchlaw’r dref, gallwch glywed ceir yn mynd heibio islaw weithiau.
Ddegawdau lawer yn ôl, buasai’r sŵn yn y cefndir yn wahanol iawn: clecian y gwaith o’r mwyngloddiau cyfagos achos roedd mwyngloddio’n ddiwydiant mawr yn yr ardal hon.
O fynyddoedd i afonydd a dolydd - darganfyddwch y daith gerdded hon sy’n llawn amrywiaeth.
O goedwig binwydd gysgodol, dolydd uwchdir, mwyngloddiau segur, llwybr pen dyfnant a darn ar hyd yr afon, i olygfeydd syfrdanol o Foel Siabod, mae gan y daith gerdded hon rywbeth at ddant pawb.
Mae'n dychwelyd ar hyd afon Llugwy (os bydd wedi bwrw glaw cryn dipyn, gall yr afon orlifo fan hyn a dylech ddilyn y gwyriad).
Mwynhau golygfeydd o’r llyn, golygfa dros Lanrwst, ac ychydig o waith celf coedwig.
Dilynwch y cyfeirbwyntiau melyn ar lwybr sy’n esgyn yn raddol i Lyn Parc.
Parhewch ar hyd ffordd goedwig sy’n mynd â chi’n uchel uwchben Dyffryn Conwy gyda golygfeydd hardd tuag at dref Llanrwst.
Mae’r siwrnai ddychwelyd yn dolennu ar hyd glan Llyn Parc, sef llyn naturiol a gafodd ei gronni i bweru peiriannau mwyngloddio yng ngheunant Aberllyn.
Oddi yma dilynwch y dŵr i lawr drwy’r ceunant, heibio nifer o fynedfeydd mwynglawdd ac yn ôl i fwrlwm Betws-y-coed.
Gadael bwrlwm Betws-y-coed I ddarganfod llyn llonydd a golygfeydd prydferth.
Mae’n werth dringo o Fetws-y-coed i fwynhau’r olygfa, y bywyd gwyllt a’r tawelwch wrth i chi gerdded o amgylch Llyn Elsi.
Dilynwch y llwybr o gwmpas y llyn wrth iddo dorri i mewn ac allan o ymyl y dŵr nes ichi ymuno â’r prif lwybr i olrhain eich camau yn ôl i Fetws-y-coed.
Profwch eich sgiliau darllen map drwy lywio rhwng y cyfeirbyst pren ar un o’n tri llwybr cyfeiriannu parhaol ym Mharc Coedwig Gwydir.
Mae’r tri llwybr yn dechrau yn agos at Fetws-y-coed ac yn gorffen tu cefn i Eglwys y Santes Fair yng nghanol y pentref.
Mae’r llwybrau wedi’u graddio yn ôl safonau Ffederasiwn Cyfeiriannu Prydain a’u cynllunio gan Gyfeirianwyr Eryri.
Mae’r Llwybr Oren yn gymedrol o ran her llywio ac mae 10 cyrchbost.
Mae gofyn llywio sy’n anodd yn dechnegol ac mae 16 cyrchbost.
Mae’r Llwybr Glas yn galw am lywio anodd technegol ac mae rhaid ymweld â 16 o reolyddion ar y cwrs.
I gyrraedd y dechrau, dilynwch y ffordd fechan (Ffordd Craiglan) sy’n rhedeg ochr yn ochr â siop Cotswolds Rock Bottom allan o Fetws-y-coed i arosfan (cyfeirnod grid OS SH 795 559) sydd ar y chwith wedi rhyw 150 metr – edrychwch am arwydd ar ochr y ffordd.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o sawl feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llwybrau beicio mynydd gradd coch, Gwydir Mawr a Gwydir Bach, yn dechrau o feyseydd parcio Mainc Lifio a Hafna..
Mae Betws-y-coed wrth gyffordd yr A5 a'r A470.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Betws-y-Coed ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 791 567 (maes parcio Pont y Pair).
Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-coed (ac eithrio Taith Llyn Elsi). Dilynwch yr A5 drwy ganol pentref Betws-y-coed a throi i'r B5106 gan ddilyn arwyddion Trefriw. Croeswch bont garreg a throi ar unwaith i'r chwith i ffordd fach ac ymhen 50 metr bydd maes parcio Pont y Pair ar y dde. Mae Taith Llyn Elsi yn cychwyn y tu ôl i Eglwys y Santes Fair yng nghanol Betws-y-coed, sef pum munud o waith cerdded o faes parcio Pont y Pair.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Caiff maes parcio Pont y Pair ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Codir tâl am barcio.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n gofalu am y toiledau cyhoeddus yn y maes parcio a chodir tâl am eu defnyddio.