Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yw un o'r systemau twyni pwysicaf sy’n parhau i dyfu ym Mhrydain ac mae’n un o lond dwrn yn unig o systemau tebyg yng Nghymru.
Mae twyni fel y rhain gyda’u hardaloedd tywod noeth yn dod yn gynyddol brin.
Mae’r tirlun arfordirol trawiadol hwn yn un o’n trysorau naturiol cyfoethocaf ac yn gartref i ystod eang o blanhigion ac anifeiliaid, a’r cyfan wedi’u haddasu’n benodol i fywyd ar ymyl y môr.
Ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn y De, mae'r ddwy warchodfa yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni tywod ar hyd yr arfordir.
Mae llwybr cyhoeddus o faes parcio Min y Don at y traeth (trowch i’r dde ar hyd y traeth i gyrraedd y warchodfa.
Rydym wedi ffensio rhai rhannau o’r warchodfa i ganiatáu pori neu i ddiogelu planhigion twyni bregus.
Cadwch eich cŵn ar dennyn yn ystod tymor magu adar Mawrth – Gorffennaf; mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth ac adar eraill yn y twyni ac ar y morfa hel.
Mae Morfa Harlech yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Yn y gwanwyn a’r haf cadwch olwg am drilliw’r twyni, tegeirian bera neu hyd yn oed tegeirian y wenynen prin.
Efallai y byddwch chi’n ddigon ffodus i weld penigan y forwyn.
Yn yr hydref gellir gweld planhigion sy'n blodeuo'n hwyr yn y twyni, megis crwynllys yr hydref a phlanhigion troellig yr hydref. Cadwch olwg am ffwng unigryw yn tyfu yn y twyni hefyd!
Mae’r glaswelltiroedd twyni sych yn gartref i nifer o löynnod byw a gwyfynod, fel y gwyfyn bwrned chwe smotyn a’r glöynnod byw gleision cyffredin a’r coprau bach.
Mae pryfed eraill fel rhai o’n gwenyn turio prinnaf, a gwenyn meirch unig yn dibynnu ar dywod noeth ac efallai y gwelwch fadfall y tywod hefyd.
Mae cwtiaid torchog yn nythu ar y traeth o Fawrth i Orfennaf – ceisiwch beidio a tharfu arnynt!
Mae adar fel yr ehedydd a chlochdar y cerrig yn magu yn y twyni, gyda phibyddion coesgoch a chornchwiglod yn defnyddio’r morfa heli.
Yn y gaeaf mae rhydyddion fel pïod y môr, pibyddion y mawn a phibyddion y tywod yn bwydo ar hyd y draethlin, ac mae amrywiaeth o hwyaid gwyllt yn defnyddio’r aberoedd a’r morfa heli.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu llwybr cerdded parhaus o amgylch arfordir Cymru.
Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i ddarganfod mwy.
Mae Morfa Harlech wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yn llai na milltir i’r gorllewin o Harlech
Y cod post yw LL46 2UG.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
Yn Harlech, cymerwch y troad wrth yr orsaf reilffordd sydd ag arwydd at y traeth
Dilynwch y ffordd fach hon, sef Ffordd Glan Mor, am hanner milltir ac mae maes parcio Min y Don ar ddiwedd y ffordd.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 574 316 (Explorer Map OL 18).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Harlech.
Mae gwasanaeth bws o’r de (Y Bermo) ac o’r gogledd (Maentwrog) ar hyd yr A496. Mae safle bws ar ffin Ffordd Glan Mor.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Y prif fynediad i Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yw drwy maes parcio Min y Don ar Ffordd Glan Mor.
Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd.
Rhaid talu am barcio.
I gael gwybodaeth am oriau agor a thaliadau parcio ewch i wefan Cyngor Gwynedd.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.