Parc Coedwig Coed y Brenin - Tyddyn Gwladys, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae Tyddyn Gwladys ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.

Mae'r maes parcio yn fan cychwyn ar gyfer safleoedd enwog Rhaeadr Mawddach a Phistyll Cain.

Mae'r llwybr cylchol hwn hefyd yn mynd heibio'r gwaith aur Gwynfynydd a gaeodd ym 1999.

Ceir byrddau picnic o dan goed mawr wrth ymyl afon droellog Mawddach ar bwys y maes parcio.

""

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.2 milltir/3.6 cilomedr
  • Dringo: 359 troedfedd/109 metr
  • Amser: 1½ awr
  • Uchafbwyntiau: Mae’r rhaeadrau eu hunain yn gwneud y daith hon yn werth chweil.
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch ffordd y goedwig tua’r gogledd ar hyd afon Mawddach drwy ddyffryn serth â choed mawr o’ch cwmpas, i gyfeiriad y rhaeadrau. Dilynwch yr arwyddbyst ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon a chroesi’r bont bren yn ôl i’r maes parcio.

Mae’r llwybr yn dilyn ffyrdd y goedwig bron i gyd, ag un darn o drac preifat garw iawn cyn i chi gyrraedd y rhaeadrau ac un llethr serth ond byr 20%/1 mewn 5 ar ôl eu gadael.

Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio plant bach a sgwteri symudedd.

Mae dwy fainc ac un bwrdd picnic ar y llwybr hwn, ynghyd â dwy giât gyda lleoedd pasio 80cm o led.

Cadwch at y llwybrau ag arwyddbyst, oherwydd efallai nad yw hen adeiladau a gweithfeydd y mwynglawdd yn ddiogel a cheir disgynfeydd heb rwystrau diogelwch i lawr i’r ceunentydd.

Gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes Gweithfa Powdwr Gwn Tyddyn Gwladys.

Llwybr sain

Darganfyddwch hanes Gweithfa Powdwr Gwn Tyddyn Gwladys, a hanesion y bobl weithiodd yno, gyda’n llwybr sain.

Bwriadwyd i’r llwybr sain gael ei ddefnyddio ar hyd Llwybr Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur, llwybr cerdded sydd wedi’i arwyddo o'r maes parcio.

Rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain i'ch ffôn clyfar cyn eich ymweliad oherwydd gall darpariaeth rhwydwaith symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig.

Sut i ddefnyddio'r llwybr sain

  • Lawrlwythwch ffeil mp3 y daith sain o’r adran lawrlwytho ar waelod y dudalen hon (nodwch y bydd y ffeil yn dechrau chwarae ar unwaith pan gliciwch chi ar y ddolen, a bydd angen ichi glicio’r tri dot i’w lawrlwytho i’ch dyfais).
  • Dilynwch arwyddion Llwybr Rhaeadrau a Mwyngloddiau Aur o faes parcio Tyddyn Gwladys.
  • Cadwch lygad am y pyst wedi'u rhifo ar hyd y llwybr sy'n dangos pa drac sain i'w chwarae nesaf.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o sgript y llwybr sain o'r adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.

Parc Coedwig Coed y Brenin

Y prif feysydd parcio sydd â chyfleusterau ymwelwyr ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yw:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Tyddyn Gwladys wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.

Mae maes parcio Tyddyn Gwladys 7 milltir i’r gogledd o Ddolgellau.

Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau tuag at Borthmadog.

Cyn gadael pentref Ganllwyd, trowch i’r dde ar hyd ffordd fach ac ewch dros bont garreg.

Dilynwch yr arwyddion tuag at Dyddyn Gwladys am 1¼ milltir a bydd y maes parcio ar y dde (byddwch yn mynd heibio’r maes parcio bach ar gyfer Cae’n y Coed ar y ffordd).

 

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SH 734 263 (Explorer Map OL 18).

Y cod post yw LL40 2HS. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsafoedd rheilffyrdd agosaf yw Abermaw (rheilffordd Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (rheilffordd Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Llwybr sain Tyddyn Gwladys ffeil mp3 [9.1 MB]
Sgript llwybr sain Tyddyn Gwladys sgript llwybr sain PDF [283.9 KB]

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf