Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Safle picnic dymunol ar gyfer llwybrau cerdded tawel
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Tan y Coed yn goetir hawdd dod o hyd iddo gyda safle picnic, llwybrau troed a rhedeg, wedi’i leoli’n syth oddi ar yr A487.
Dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu Coed Tan y Coed yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl i’r rhyfel ddisbyddu holl goed Prydain.
Parhaodd y plannu drwy’r Ail Ryfel Byd gyda Merched Byddin y Tir, a elwid yn “Timber Jills”, yn plannu’r coed.
Heddiw mae Tan y Coed yn safle picnic dymunol gyda byrddau yng nghysgod coed anferth mewn ardal eang o laswellt yn y maes parcio.
Mae yn fan cychwyn ar gyfer dau dro tawel heibio i hen goed mwsoglog ac ar hyd yr afon.
Mae yma hefyd lwybr pos anifeiliaid i deuluoedd a dau lwybr rhedeg.
Mae Tan y Coed yng Nghoedwig Dyfi’n gorwedd yn bennaf i’r gogledd o Afon Dyfi rhwng tref Dolgellau i’r gogledd a Machynlleth i’r de.
Mae copaon ysgithrog yn codi’n uchel dros y llechweddau coediog gyda hen adfeilion a thomenni gwastraff llechi yma ac acw.
Gwelir trenau stêm yn pwffian ar hyd y llethrau, bellach yn cludo ymwelwyr ond yn wreiddiol byddent wedi cludo llechi o’r chwareli i’r arfordir.
Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Dyfi. Ewch i Nant Gwernol a Foel Friog am fwy o wybodaeth.
Lawrlwythwch ein taflen Coedwig Dyfi.
Mae gan y llwybrau cerdded i gyd arwyddbyst ac maen nhw’n cychwyn o faes parcio Tan y Coed.
1 milltir/1.8 gilomedr, cymedrol
Mae’r tro cymedrol hwn yn pasio drwy goetir ffawydd ac ar hyd afon Cadian gyda’i rhaeadr a'i phyllau dŵr.
1 milltir/1.8 gilomedr; yr un llwybr â Llwybr Cwm Cadian, cymedrol
Mae’r daflen Llwybr Pos Anifeiliaid yn rhoi cliwiau i helpu plant i ddod o hyd i’r anifeiliaid sy’n cuddio yn y coed ar hyd Llwybr Cwm Cadian.
Mae taflenni ar gael o beiriant yn y maes parcio.
Lawrlwythwch ein taflen Llwybr Pos Anifeiliaid.
1½ milltir/2.4 cilomedr, cymedrol
Mae’r tro cymedrol hwn yn dringo’n igam-ogam drwy goed conwydd ac yna drwy goetir ffawydd a derw mwy agored. Mae yna’n disgyn i lawr at yr afon ac yn dilyn yr afon a’i chenllif yn ôl i’r maes parcio.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Sylwch:
Mae arwyddion ar gyfer maes parcio Tan y Coed oddi ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth, i’r de o Gorris ac i’r gogledd o Bantperthog.
Mae yn Sir Gwynedd.
Gallwch barcio yno am ddim.
Mae Tan y Coed ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 23.
Y cyfeirnod grid OS yw SH 755 054.
Mae'r orsaf drên agosaf ym Machynlleth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk