Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Hendre yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae Coedwig Dyfnant yn goedwig ucheldirol ar gyrion mynyddoedd Cambria yn union i’r de o Lyn Efyrnwy.
Mae’r goedwig yn cynnwys ardaloedd eang o gonwydd a llecynnau o goed collddail brodorol.
Mae’n adnabyddus am ei llwybrau marchogaeth a gyrru car a cheffyl ar draciau golygfaol.
Mae yna hefyd lwybr cerdded byr o'n maes parcio ym Mhont Llogel.
Hendre yw man cychwyn y llwybrau gyrru cart a cheffyl.
Yn y maes parcio ceir:
Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr gyrru cart a cheffyl yng Ngoedwig Dyfnant.
Cafodd y llwybrau hyn, a elwir yn Llwybrau’r Enfys, eu datblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.
Mae Coedwig Dyfnant yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae maes parcio Hendre ar y B4395 rhwng Llangadfan a Llyn Efyrnwy.
Mae yn Sir Powys.
Mae Hendre ar fap 239 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 029 151.
O faes parcio Pen-y-ffordd: trowch i'r chwith ar y B4395 (A458 Llangadfan tuag at Lyn Efyrnwy). Dilynwch y ffordd hon am filltir a hanner cyn troi i'r chwith ger bythynnod Hendre ar y gornel. Mae maes parcio Hendre 300 metr i fyny'r ffordd hon ar yr ochr dde.
O Lanfyllin: Cymerwch y B4393 ac yna trowch i'r chwith ar y B4395, gan ddilyn yr arwyddion i Lwydiarth a Phont Llogel. Trowch i'r dde ger bythynnod Hendre. Mae maes parcio Hendre 300 metr i fyny'r ffordd hon ar yr ochr dde.
Does dim angen talu i barcio ceir.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.