Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Llwybrau marchogaeth trwy fryniau tonnog a dyffrynnoedd gwyrdd ffrwythlon
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coedwig Dyfnant mewn rhan o Gymru sy'n adnabyddus am ei bryniau tonnog, ei dyffrynnoedd gwyrdd ffrwythlon a'i phentrefi a'i ffermydd tlws.
Mae'n ardal sydd hefyd yn gyfoethog ei hanes. Roedd Owain Glyndŵr, y tywysog a fu’n ymladd dros annibyniaeth i Gymru a Chymru unedig, yn arfer marchogaeth dros y bryniau hyn ar un adeg.
Erbyn heddiw, mae'n nodedig am gyfleusterau ar gyfer marchogaeth a gyrru car a cheffyl.
Datblygwyd Llwybrau’r Enfys mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.
Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr car a cheffyl.
Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.
I weld y manylion llawn a’r mapiau ewch i wefan Llwybrau’r Enfys neu lawrlwythwch'r gwybodaeth am safle Pen y Ffordd.
Pen y Ffordd yw man cychwyn y llwybrau marchogaeth ag arwyddbyst.
Mae Pen y Ffordd yn maes parcio pwrpasol. Mae cyfleusterau yn cynnwys:
Sylwch:
Mae maes parcio Pen y Ffordd ar y B4395 rhwng Llangadfan a Llyn Efyrnwy.
Mae yn Sir Powys.
Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 033 154.
Does dim angen talu i barcio ceir.
Gallwch gyrraedd y ffordd hon oddi ar yr A458 (Mallwyd i'r Trallwng) yn Llangadfan neu oddi ar yr A490 (Llanfyllin i'r Trallwng) yn Llanfyllin, gan gymryd y B4393 ac yna troi i'r chwith ar y B4395, gan ddilyn yr arwyddion am Lwydiarth a Phont Llogel.
Mae Pen y Ffordd ar fap Arolwg Ordnans (AR) 239.
Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SJ 017 135.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Llwybrau’r Enfys
E-bost: admin@rainbowtrails.org.uk