Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Ar un cyfnod, mwyngloddio plwm a sinc oedd y prif weithgarwch ym Mharc Coedwig Gwydir, sydd bellach wedi’i leoli yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r diwydiant bellach wedi hen ddiflannu, ond mae adfeilion amryw o’r gweithfeydd wedi’u hadfer yn rhannol a’u gwneud yn ddiogel ar gyfer ymwelwyr.
Gallwch gerdded trwy rai o hen waith plwm Cyffty ar y llwybr byr hwn.
Mae arwyddion i’w dilyn ar hyd y llwybr cerdded, ac mae’n cychwyn o gilfan (Cyfeirnod Grid OS SH 772 589).
Pellter: ¼ milltir/0.5 cilomedr
Gradd: Cymedrol
Uchafbwyntiau: Dychmygwch seiniau a gweithgaredd y diwydiant oedd unwaith yn ffynnu yma. Cerddwch dros y siafft cloddfa dan orchudd ym mhen pellaf y llwybr ac edrych i lawr rhwng eich traed i’r tywyllwch. Mae nifer o baneli dehongli.
Disgrifiad: Llwybr gwastad ydyw ar y cyfan, yn amrywio o 50cm i 1m o led, ag arwyneb o garreg arw naturiol a nifer o risiau byrion yn cysylltu’r hen dai peiriant, cafnau olwyn a siafftiau cloddfa. Arhoswch ar y llwybr cyfeirbwyntiau.
Mwy o wybodaeth: Canllaw cerdded
Lawrlwythwch fwy o wybodaeth ar gyfer Llwybr Mwynglawdd Cyffty (canllaw cerdded)
Mae Mwynglawdd Cyffty ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-Coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Yn ogystal â’r llwybrau o Fetws-y-coed mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llwybrau beicio mynydd gradd coch, Gwydir Mawr a Gwydir Bach, yn dechrau o Fainc Lifio neu Hafna.
Mae Gwaith Plwm Cyffty 3 milltir i’r gogledd-orllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae’r llwybr cerdded yn dechrau o gilfan ar isffordd.
O’r B5106 wrth Gastell Gwydir: dilynwch yr isffordd i’r goedwig, gan ddilyn arwyddion am Geirionydd. Mae’r gilfan ar ddechrau llwybr gerdded Gwaith Plwm Cyffty ar y chwith, ar ôl pasio maes parcio Llyn Sarnau.
O’r A5 wrth Dŷ Hyll: dilynwch yr isffordd i’r goedwig. Mae’r gilfan ar ddechrau llwybr gerdded Gwaith Plwm Cyffty ar y dde, ar ôl maes parcio Tŷ'n Llwyn.
Mae Mwynglawdd Cyffty ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Y cyfeirnod grid OS ar gyfer man dechrau’r llwybr yw SH 772 589.
Yr orsaf drên agosaf yw Betws-y-Coed.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk