Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mwynhewch olygfeydd o gopaon Eryri a mynd am dro ar hyd ffordd Rufeinig
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae pentref Dolwyddelan ym mhen deheuol Parc Coedwig Gwydir.
Tyfodd yn gymuned fawr pan oedd y chwareli llechi cyfagos yn eu hanterth.
Erbyn heddiw mae'n cynnig cyfle i ymwelwyr ymlwybro i fannau diarffordd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae golygfeydd gwych o ben y dyffryn ac i gyfeiriad mynydd Moel Siabod i’w gweld ar hyd y llwybr cerdded hwn sydd wedi’i gyfeirbwyntio.
Mae'r llwybr yn dilyn rhan o’r ffordd Rufeinig a elwir ‘Sarn Helen’ a ddefnyddiwyd gan lengoedd o filwyr Rhufeinig wrth orymdeithio rhwng y gaer yng Nghaerhun a'u gwersyll mawr yn Nhrawsfynydd.
Mae safle picnic ger y bont droed dros yr afon, hanner ffordd ar hyd y llwybr cerdded.
Pellter: 1⅔ milltir/2.9 cilomedr
Gradd: hawdd
Arwyddbyst: glas
Uchafbwyntiau: Mwynhewch olygfa wych o ben y dyffryn ac i gyfeiriad Moel Siabod. Mae’r llwybr yn dringo’n raddol drwy'r pentref ac i fyny ffordd goediog ac fe welwch y Cwm yn agor o'ch blaen. O ben y bont gallwch edmygu golygfeydd geirwon Carreg Alltrem, sy’n boblogaidd gyda dringwyr.
Byddwch yn dychwelyd i Ddolwyddelan ar hyd y ffordd Rufeinig ‘Sarn Helen’ - oedd ar un adeg yn rhedeg trwy Gymru, o'r gogledd i'r de - ac yna’n mynd heibio i banel dehongli yn Nhai Penamnen sy'n adrodd hanes cymuned sydd wedi hen ddiflannu.
Disgrifiad o'r llwybr: Mae'r llwybr hwn yn dilyn ffordd goedwig eang a ffordd darmac gul yn bennaf. Mae un rhan lle mae’r llwybr yn gulach ac iddo arwyneb llyfn lle mae'n croesi'r afon ar bont droed. Ger y bont, mae dau fwrdd picnic a lle parcio bychan ar gyfer dau gar.
Lawrlwythwch gerdyn cerdded Cwm Penamnen
Sylwch:
Mae Dolwyddelan 6 milltir i'r de-orllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae'r llwybr cerdded yn cychwyn o'r maes parcio yng ngorsaf reilffordd Dolwyddelan.
Rheolir y maes parcio hwn gan y gymuned leol a rhaid talu tâl parcio.
Cymerwch yr A470 o Fetws-y-coed i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog. Ar ôl tua 6 milltir trowch i'r chwith wrth ymyl y siop i mewn i bentref Dolwyddelan. Ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon ac yna trowch i'r chwith i faes parcio gorsaf reilffordd Dolwyddelan.
Mae Dolwyddelan ar fap Arolwg Ordnans (AR) Ol 17.
SH 737 521 yw cyfeirnod grid yr OS ar gyfer dechrau'r llwybr cerdded.
Mae Parc Coedwig Gwydir yn gorwedd yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Dyma'r porth i dirwedd o goetiroedd, llynnoedd a mynyddoedd sy'n gyfarwydd i genedlaethau o ymwelwyr ers oes Fictoria.
Arferai mwyngloddio plwm a sinc fod yn nodwedd flaenllaw o’r ardal ac mae gweddillion nifer o’r mwyngloddiau hyn wedi eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
P'un ai a ydych chi eisiau mwynhau prysurdeb Betws-y-coed, mynd am dro yn wlad, rhoi cynnig ar daith beicio mynydd anturus, ymweld â rhaeadr neu ddarganfod hanes diddorol yr ardal hon, mae gan Gwydir rywbeth i’w gynnig i chi.
Yn ogystal â'r daith gerdded yn Nolwyddelan, mae teithiau cerdded wedi’u cyfeirbwyntio yn cychwyn o’r rhannau hyn o Barc Coedwig Gwydir:
Llwybr y Marin, llwybr beicio mynydd gradd coch â dringfeydd mawr a disgyniadau trac unigol yn unig, yn dechrau o Fainc Lifio.
Yr orsaf drên agosaf yw Betws-y-Coed.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk