Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
Mae llwybr Geirionydd i Grafnant wedi cael ei ddargyfeirio er mwyn osgoi gwaith coedwigaeth - dilynwch yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau sydd ar y safle, os gwelwch yn dda.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Llyn Geirionydd yn lle poblogaidd i gael picnic ar lan y dŵr.
Gallwch ddilyn y llwybr cerdded cylchol sydd wedi’i arwyddo o Lyn Geirionydd drwy’r goedwig hyd at Lyn Crafnant gerllaw – a mwynhau golygfeydd o’r llynnoedd a’r mynyddoedd ar y ffordd.
Llyn Geirionydd, yn ôl pob sôn, oedd cartref y bardd o’r 6ed ganrif, Taliesin, a saif cofeb iddo ar y lan ogleddol.
Yn y 1870au, roedd hon yn dirwedd ddiwydiannol ddiffaith - yn wir, mae'r maes parcio ar domen sbwriel ger mynedfa hen waith plwm.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r gylchdaith hon yn mynd drwy’r goedwig ac yn cysylltu’r ddau lyn.
Dilynwch y llwybr heibio pen deheuol Llyn Geirionydd nes bod y llwybr yn culhau ac yn eich taflu i gysgod a brith olau coed llarwydd tal.
Disgynnwch yn serth drwy blanhigfa byrwydd ddistaw gysgodol ac yna heibio coed ynn a drain gwynion yn drwm o fwsogl a chen, sy’n arwydd o’r awyr iach yma.
Parhewch ar ffordd darmac heibio i Lyn Crafnant a ffordd goedwig, gan ddringo i olygfan, yna disgynnwch yn ôl i Lyn Geirionydd.
Mae tri llwybr cerdded wedi’u harwyddo yn arwain o’n maes parcio yn Llyn Crafnant, ac mae un ohonynt yn llwybr hygyrch.
Mae un o Lwybrau Trefriw, cyfres o naw llwybr cerdded ag arwyddbyst o bentref Trefriw, yn arwain i Lyn Geirionydd.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Yn ogystal â’r llwybrau o Lyn Geirionydd, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst a dau lwybr beicio mynydd gradd coch yn dechrau o’n feysydd parcio eraill ym Mharc Coedwig Gwydir.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r toiledau yn agored rhwng 9am a 7pm drwy’r flwyddyn.
Byddant yn cael eu cloi dros nos.
Mae Llyn Geirionydd 4 milltir i'r gorllewin o Lanrwst.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Llyn Geirionydd ar AO Explorer OL17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 763 604.
Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.
Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.
Ewch heibio i nifer o feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru a throwch i’r dde wrth yr arwyddbost ar gyfer Llyn Geirionydd.
Dilynwch y ffordd hon i’r maes parcio.
Yr prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl..
0300 065 3000