Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Porth at y Rhaeadr Enwog Ewynnol
Mae’r olygfan ar gau.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Ers Oes Fictoria, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi cerdded ar hyd y llwybrau coetir ac wedi pysgota yn nyfroedd clir yr afonydd yma.
Heddiw, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod y dirwedd hon o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd a dysgu am ei hanes mwyngloddio.
Ceir llwybr beicio mynydd hefyd (sydd wedi'i raddio'n goch gan ei fod ond yn addas i feicwyr medrus), gardd goedwig a llwybr cerdded ag arwyddbyst i Raeadr Ewynnol.
Rhwng 1850 a 1919, gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal. Mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Cafodd bron pob llyn yn y goedwig ei greu i wasanaethu'r mwyngloddiau.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Heddiw, wrth i chi ddarganfod bryncynnau, llynnoedd a phorfeydd coediog ucheldirol, bydd yn anodd i chi ddychmygu mai tirwedd ddiwydiannol adfeiledig oedd yr ardal hon ers talwm.
Mae Parc Coedwig Gwydir yn cwmpasu ardal sy'n fwy na 72 cilomedr sgwâr (28 milltir sgwâr) ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-Coed.
Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o'r rhannau canlynol o Barc Coedwig Gwydir:
Llwybr y Marin, llwybr beicio mynydd gradd coch â dringfeydd mawr a disgyniadau trac unigol yn unig, yn dechrau o Fainc Lifio.
Mae Tŷ’n Llwyn yn fan gwych i fwynhau picnic â golygfa wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.
Mae hefyd yn fan cychwyn llwybr cerdded drwy goetir i Raeadr Ewynnol.
Sylwch:
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
2.5 milltir, 4 cilomedr
Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain i olygfan dros y rhaeadr enwog hon. Mae'n disgyn drwy goetir cyn cyrraedd golygfan lle ceir mainc. Yna mae'r llwybr yn ymdroelli i fyny drwy'r coed a brigiadau creigiog i olygfan arall â golygfa wych i lawr y dyffryn.
Mae Tŷ’n Llwyn 3½ milltir i'r gorllewin o Fetws-y-Coed ar is-ffordd oddi ar yr A5.
Mae yn Sir Conwy.
Mae'r maes parcio am ddim.
O'r A5, ewch ar yr is-ffordd i mewn i'r goedwig o'r Tŷ Hyll.
Mae Tŷ’n Llwyn ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 765 583.
Yr orsaf drên agosaf yw Betws-y-Coed.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk