Coed Wyndcliff, ger Cas-gwent

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coed Wyndcliff yn gartref i un o’r golygfannau gorau yn Nyffryn Gwy, sef Nyth yr Eryr.

Mae'r olygfan enwog hon yn edrych dros y tro yn Afon Gwy tuag at bontydd ac aber Hafren ac, ar ddiwrnod braf, gallwch weld bryniau Cotswold a Mendip.

Ceir llwybr cerdded ag arwyddbyst o faes parcio Wyndcliff Isaf i’r olygfan, drwy goetir llawn coed ffawydd a choed yw enfawr.

Llwybr cerdded cylchol yw hwn, y gellir ei ddilyn i gyrraedd yr olygfan yn glocwedd neu’n wrthglocwedd, yn dibynnu ar b'un a fyddai’n well gennych fynd i fyny neu i lawr y 365 o Risiau.

Mae meinciau picnic i’w cael yn y maes parcio.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Nyth yr Eryr

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 1¼ milltir/1.9 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn cychwyn ar ochr arall y ffordd i’r maes parcio - cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd. Mae'n llwybr cylchol gyda llawer o risiau serth ac anwastad iawn. Mae grisiau serth i lawr at olygfan Nyth yr Eryr hefyd, ac mae mainc yno pan gyrhaeddwch chi.
  • Y llwybr clocwedd: Dilynwch yr arwyddbyst drwy’r coetir ar lwybr serth ac anwastad tuag at yr olygfan. Mae'r llwybr yn dychwelyd i'r maes parcio i lawr llawer o risiau serth ac anwastad iawn (a elwir y 365 o Risiau). Mae gan rai o’r grisiau ganllawiau, ac mae yna ddisgynfeydd serth wrth ochr y llwybr.
  • Y llwybr gwrthglocwedd: Dilynwch yr arwyddbyst i ddringo llawer o risiau serth ac anwastad iawn (a elwir y 365 o Risiau) i’r olygfan. Mae gan rai o’r grisiau ganllawiau, ac mae yna ddisgynfeydd serth wrth ochr y llwybr. Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r maes parcio drwy’r coetir i lawr llwybr serth ac anwastad.
  • Llwybr llinellol: Er mwyn osgoi’r 365 o Risiau, gallwch ddilyn y llwybr yn glocwedd i’r olygfan a dychwelyd yr un ffordd i’r maes parcio. Mae'r llwybr yn serth ac anwastad, ac mae grisiau serth i lawr at yr olygfan ei hun.

Crëwyd gwylfa enwog Nyth yr Eryr ym 1828 ar gyfer Dug Beaufort, mewn cyfnod pan oedd golygfannau dramatig fel hyn yn ffasiynol.

Darllenwch yr wybodaeth am y llwybr yn ofalus cyn cychwyn ar eich taith ac yna dilynwch yr arwyddbyst ar gyfer y ffordd rydych yn ei dewis.

Llwybr Picturesque Piercefield

Mae Llwybr Picturesque Piercefield prydferth a hanesyddol yn rhedeg drwy Goed Wyndcliff.

Daeth yn llwybr poblogaidd i dwristiaid yn Nyffryn Gwy yn y 18fed ganrif, ac mae nifer o’r nodweddion yn dal i fodoli hyd heddiw.

Am fwy o wybodaeth am Lwybr Picturesque Piercefeld ewch i wefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy.

Llwybr Dyffryn Gwy

Mae Llwybr Dyffryn Gwy yn mynd drwy Goed Wyndcliff.

Aiff y llwybr cerdded 136 milltir hir hwn ar hyd afon Gwy rhwng Cas-gwent a Choedwig Hafren.

Gallwch ymuno â'r llwybr o faes parcio Wyndcliff Isaf - cadwch olwg am yr arwydd gwybodaeth a'r arwyddion.

Am fwy o wybodaeth am Lwybr Dyffryn Gwy ewch i wefan Lwybr Dyffryn Gwy.

Coetiroedd Dyffryn Gwy

Mae coetiroedd rhannau isaf Dyffryn Gwy yn rhai o'r coetiroedd harddaf ym Mhrydain.

Mae’r golygfeydd naturiol ysblennydd yma wedi swyno ymwelwyr ers canrifoedd, gan gynnwys arlunwyr a beirdd o Turner i Wordsworth.

Mae golygfannau hanesyddol yn cynnig golygfeydd trawiadol dros geunant ac afon Gwy, tuag at Fôr Hafren a Phontydd Hafren.

Daw pob tymor â rhywbeth arbennig i’w ganlyn; clychau'r gog yn y gwanwyn, dail iraidd yr haf, lliwiau llachar yr hydref, a harddwch silwetau’r coed yn y gaeaf.

Mae yna lwybrau cerdded mewn tair o'n coetiroedd Dyffryn Gwy eraill - Coed Manor, Golygfa Ban a Whitestone.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy

Lleolir y Coetiroedd Dyffryn Gwy yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Dyffryn Gwy.

Mae'r AHNE yn dirwedd warchodedig rhyngwladol bwysig sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae'n cwmpasu darn 58 milltir o Afon Gwy a gydnabyddir am ei golygfeydd trawiadol o’r ceunant, coetiroedd yr hafnau a thir fferm.

Dysgwch fwy am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coetiroedd Dyffryn Gwy yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coed Wyndcliff 3½ milltir i'r gogledd o Gas-gwent.

Cod post

Y cod post yw NP16 7JB.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch ffordd yr A466 o Gas-gwent i gyfeiriad Tyndyrn.

Ewch trwy bentref Llanarfan ac, ar ôl tua milltir, mae maes parcio Wyndcliff Isaf ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw ST 526 971 (Explorer Map OL 14).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Cas-gwent.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf