Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Bwydo'r barcudiaid, hwyl i'r teulu a llwybrau ar gyfer cerdded, rhedeg a beicio mynydd
Mae'r maes parcio a'r llwybrau ar agor.
Newidiadau yn y caffi a’r ganolfan ymwelwyr
Mae'r maes parcio a'r llwybrau ar agor.
O 20 Rhagfyr:
Newid y llwybrau a chyfleusterau eraill i ymwelwyr
Dim ond rhan o daith gerdded Llwybr y Barcud o gwmpas y llyn sydd ar agor oherwydd gwaith cynnal a chadw.
Mae rhan ‘Drunken Druid’ llwybrau beicio mynydd Pendam, Summit, a Syfydrin ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Mae’r llwybrau’n dal ar agor ond dilynwch yr arwyddion ynglŷn â gwyriadau ar y safle.
Mae’r cuddfannau gwylio adar ar gau.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian wedi’i lleoli ar ben uchaf cwm dramatig ac mae'n safle y mae modd gweld ymhell ohono dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.
Mae’n enwog am ei thraddodiad hir o fwydo barcudiaid cochion, Aderyn Ysglyfaethus Cenedlaethol Cymru, bob dydd.
Mae’r ganolfan ymwelwyr yn fan cychwyn ar gyfer amryw o lwybrau ag arwyddbyst arnyn nhw ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd, rhedwyr a marchogion ceffylau.
Mae parc sgiliau gyda trac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg a llwybr cylchol ag arwyddbyst ar gyfer marchogion ceffylau ar hyd traciau coedwig, llwybrau a ffyrdd tawel wedi’u tarmacio.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian wedi ennill gwobr aur. Dyfarnwyd y wobr gan Croeso Cymru am atyniadau sy’n gwneud ymdrech fawr i roi profiad pleserus a chofiadwy i’w hymwelwyr.
Mae arwyddbyst ar yr holl lwybrau cerdded ac mae pob un yn dechrau o'r ganolfan ymwelwyr.
⅔ milltir, 1.2 cilometr, hygyrch
Mae Llwybr y Barcud yn eich arwain o amgylch ymyl y llyn, lle caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Ar hyd y llwybr mae anifeiliaid pren i’w gweld – cymerwch daflen Pos Anifeiliaid o’r teclyn taflenni neu yn y ganolfan ymwelwyr – tybed faint o anifeiliaid y gallwch ddod o hyd iddynt?
Chwiliwch am gerfluniau a barddoniaeth ar hyd y llwybr sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw – codwch daflen Llwybr Elenydd yn y ganolfan ymwelwyr.
1½ milltir, 2.4 cilometr, cymedrol
Mae Llwybr y Mwynwyr yn troelli ar hyd pen y cwm, gan ddilyn ffrwd a arferai gludo dŵr i bweru mwyngloddiau plwm. Mae’n dringo llechwedd fer ond serth at Gadair y Cawr sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa. O’r fan yma ewch i lawr i mewn i ardal sydd wedi cael ei phlannu’n ddiweddar â 12,000 o goed brodorol. Ewch i lawr yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.
2.5 milltir, 4.1 cilometr, cymedrol
Dilynwch yr arwyddion i fyny at y grib sydd wedi ei orchuddio â grug a mwynhewch y golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Ewch heibio i’r arsyllfa garreg cyn cerdded i lawr trwy’r coed. Ymunwch â’r llwybr ffrwd main a ddaw â chi’n ôl at y maes parcio.
Mae arwyddbyst ar yr holl lwybrau beicio mynydd ac mae pob un yn dechrau o'r ganolfan ymwelwyr.
Dewiswch lwybr sy'n iawn i chi drwy edrych ar raddau'r llwybrau beicio mynydd ar ein tudalen beicio mynydd.
Gradd: glas (cymedrol)
Dolen 1: 1.85 cilomedr/dringo 75m
Dolen 1 & 2: 5 cilomedr/dringo: 110m
Agorwyd Llwybr Melindwr ym Mis Hydref 2019. Dyluniwyd i fod yn un 'cynyddol' ar gyfer beicwyr sy'n gymwys ar lwybrau gradd glas, fel y gallant wella'u sgiliau cyn symud ymlaen i'r radd nesaf.
Mae llwybr Melindwr mewn dau gylch; mae beicio’r ddau gylch yn 5km.
Mae’r cylch cyntaf yn llai na 2km ac yn cynnwys: un rhan lle byddwch yn dringo ffordd goedwig; mainc â golygfa wych; ac un disgyniad troellog cyffrous â llawer o ysgafellau, ar y ffordd yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.
Mae cylch 2 yn mynd â chi i fyny rhan gychwynnol yr 'Italian Job' cyn dod i lawr yr 'Hanner Pibell'. Cymerwch ofal ar y rhan ddwyffordd nesaf a ddefnyddir gan eraill hefyd, cyn dringo o amgylch y ‘Y Trwyn’ i weld golygfa wych o’r môr ymhell draw. Cymerwch seibiant ar y fainc cyn y disgyniad hir a throellog sydd â rholeri ac ysgafellau difyr. Mae’r ffordd goedwig y byddwch yn ei dringo i ddod yn ôl yn cynnwys un rhan ag esgyniad o 12%, ond y disgyniad terfynol cyffrous fydd eich gwobr.
Gradd: coch (anodd)
Pellter: 9 cilomedr
Dringo: 220m
Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhannau o Lwybrau Summit a Syfydrin ac yn cynnig profiad o’r beicio anhygoel a’r golygfeydd rhagorol sydd yma. Er mai hwn yw’r llwybr byrraf yn Nant yr Arian mae’n cynnwys sawl rhan trac sengl dymunol ac ambell ddringfa galed. Mae rhai rhannau yn dechnegol iawn.
Gradd: coch (anodd)
Pellter: 18 cilomedr
Dringo: 515m
Mae Llwybr Summit yn cynnig beicio tonnog a chyflym ar lôn sengl bwrpasol, anhygoel sy’n addas i’w defnyddio mewn unrhyw dywydd. Mae’n gwau ei ffordd drwy goedwigoedd conwydd, i lawr llethrau serth a thrwy gymoedd dyfnion.
Gradd: du (caled)
Pellter: 35 cilomedr
Dringo: 670m
Mae llwybr Syfydrin yn cynnwys Llwybr Summit gyda’i drac sengl ffantastig sy’n llifo a phlymio – ac yn ychwanegu ato trwy eich arwain allan i’r bryniau agored lle ceir golygfeydd anhygoel.
Mae’r parc sgiliau yn drac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg neu hyd yn oed ar gyfer cynhesu cyn mynd i’r afael â’r llwybrau hwy sy’n cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r nodweddion yn cynnwys roleri, grisiau, ysgafellau, pennau bwrdd, ‘cluniau’ a dysglau.
Cafodd y parc sgiliau ei gynllunio a’i adeiladu gan Trailcraft.
Cafodd y safle ei ddewis yn ofalus fel nad yw’r llwybr yn effeithio ar lwybrau eraill nac ar yr olygfa o’r llyn.
Mae'r llwybrau rhedeg ag arwyddbyst arnyn nhw yn dechrau o'r maes parcio.
Cafodd llwybrau Y Fuwch a’r Llo eu henwi ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.
Sylwch:
3.1 milltir, 5 cilometer, cymedrol
Cyflwyniad hamddenol i redeg llwybrau, mae’r llwybr 5km hwn yn cychwyn ar y gwastad am oddeutu 2km cyn dringo’r grib a mynd i lawr eto i’r maes parcio.
6.5 milltir, 10.4 cilometr, anodd
Mae’r llwybr heriol hwn yn dilyn Y Llo cyn croesi’r ffordd a rhedeg ar hyd adfeilion hen fferm. Ymunwch â ffordd y goedwig a fydd yn mynd â chi heibio Llyn Syfydrin, yna ewch yn ôl heibio’r adfeilion cyn dringo’n ôl ar hyd y grib i’r maes parcio.
6 ¾ milltir, 10.7 cilometr
Mae’r llwybr hwn sydd wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March). Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf canolbarth Cymru.
Mae'r llwybr yn dechrau ar ffordd y goedwig (cyfeirnod grid SN 717 814) ac mae'n dilyn llwybr cylchol sy'n cynnwys cyfuniad o ffyrdd coedwig, ffyrdd cyhoeddus a llwybrau. Ceir rhannau byrion sy’n serth a byddwch yn barod am amrywiaeth o arwynebeddau.
Sylwch:
Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yma (cyfres o byst y mae'n rhaid i chi eu darganfod yn eu trefn).
Mae'r rhain yn cynnwys cwrs haws ar gyfer dechreuwyr, sy'n cael ei ddefnyddio gan deuluoedd yn aml, a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.
Ewch i gael y map arbennig o'r ganolfan ymwelwyr, ac yna defnyddiwch eich sgiliau cyfeiriannu i geisio dod o hyd i byst nodi cyfeiriannu (sy'n cael eu galw'n rheolyddion) yn y drefn gywir.
Aderyn ysglyfaethus digamsyniol yw’r barcud coch, gyda’i gorff browngoch, adenydd onglog a chynffon fforchog ddwfn.
Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2pm yn y gaeaf (GMT) a 3pm yn yr haf (BST).
Gallwch ddisgwyl gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer.
Maent yn gwibio i lawr i godi darn o gig ac yn bwyta wrth hedfan.
Adar lleol yw'r rhain yn bennaf, ac maen nhw'n dod o radiws o 10 milltir i fwydo.
Ym 1999, daeth Bwlch Nant yr Arian yn orsaf bwydo barcudiaid cochion fel rhan o raglen i warchod y nifer bach o farcudiaid cochion a oedd yn yr ardal bryd hynny.
Mae dau fan chwarae i’w cael, un ar gyfer plant bach ac un ar gyfer plant hŷn.
Mae’r holl offer chwarae wedi'u gwneud o adeiladwaith pren cadarn sy’n gweddu i amgylchiadau’r goedwig.
Gallwch logi pecyn darganfod rhad ac am ddim yn y ganolfan ymwelwyr.
Mae pob pecyn yn cynnwys offer defnyddiol fel binocwlars, chwyddwydr, potyn chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd ag arweiniad yn esbonio sut i’w defnyddio.
Canfod mwy am y pecynnau darganfod.
Mae bwydlen y caffi yn cynnwys byrbrydau poeth ac oer a dewis o gacennau danteithiol.
Mae ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 5pm (caiff bwyd poeth ei weini rhwng 10am a 3pm).
Sylwer caiff bwyd poeth ei weini rhwng 10am a 3pm yn unig.
Mae’r siop yn gwerthu crefftau pren, jamiau a siytinis, poteli o gwrw Cymreig, llyfrau ac amrywiaeth o anrhegion sy’n newid yn gyson.
Mae Llwybr y Barcud, sy'n mynd o amgylch ymyl y llyn, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae'r graddiant yn 10% neu'n llai gyda mannau gorffwys ar y rhannau ar i fyny.
Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
Fel arfer nid ydym yn caniatáu dronau hamdden ym Mwlch Nant yr Arian oherwydd y posibilrwydd y gallent amharu ar neu niweidio’r Barcutiaid sy’n byw ac yn bwydo yma.
Fodd bynnag, os hoffech hedfan drôn ym Mwlch Nant yr Arian, gallwch wneud cais am ganiatâd i wneud hynny.
Defnyddiwch y ffurflen digwyddiadau ar ein tudalen Defnyddio a Mwynhau Coetiroedd.
Dim ond rhan o’r daith gerdded gylchol o amgylch y llyn (Llwybr y Barcud) sydd ar agor, oherwydd gwaith cynnal a chadw tan ddiwedd mis Tachwedd.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian naw milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar yr A44.
Mae yn Sir Ceredigion.
Mae parcio ar y safle yn costio £1.50 am hyd at ddwy awr a £3.00 am dros ddwy awr. Mae tocyn tymor ar gael.
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ar fap Arolwg Ordnans (AR) 213.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 717 813.
Ar ôl cyrraedd prynwch docyn o’r peiriant tocynnau yn y maes parcio.
Mae’r peiriant tocynnau yn derbyn cerdyn ac arian. Nid yw’n rhoi newid.
Mae'r orsaf reilffordd agosaf yn Aberystwyth.
Mae'r bws 525 o Aberystwyth - Ponterwyd/Llanidloes yn stopio ar gais wrth y fynedfa i'r maes parcio.
Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AB
0300 065 5470