Coed Gogerddan, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Croeso

Gellir cyrraedd Coed Gogerddan yn hwylus o Aberystwyth ac mae'n hawdd dod o hyd i’r safle.

Mae’r daith gerdded gylchol yn dechrau yn y maes parcio ac mae’r safle picnic bychan mewn lleoliad cysgodol ger Nant Clarach.

Yn y gwanwyn ceir sioe drawiadol o gylchau’r gog a blodau gwyllt eraill yno, a cheir amrywiaeth o liwiau tymhorol yn yr hydref.

Mae’r coetir yn gartref i hen goed hardd, gan gynnwys coed derw, castanwydd pêr a phisgwydd.

Caiff y coetir ei enwi ar ôl Plas Gogerddan gerllaw, sef hen blasty teulu Pryse a oedd yn berchnogion enwog ar weithfeydd arian a phlwm.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Gogerddan

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1.5 milltir/2.4 cilomedr
  • Amser: 1¼ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Nifer o ddringfeydd a disgyniadau serth. Bydd yr arwynebedd yn arw ac yn wlyb mewn mannau o bosibl. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda arnynt. Mainc bren yn yr olygfan sy’n edrych dros y caeau a’r bryniau.

Coed hynafol antastig a blodau syfrdanol y gwanwyn yw’r uchafbwyntiau ar y daith gerdded bleserus hon gyda sioe o glychau'r gog ddiwedd gwanwyn.

Mae hon yn daith gerdded gymharol fyr, ond caiff y dringfeydd serth drwy’r coed eu gwobrwyo â rhai golygfeydd hyfryd.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Gogerddan 3 milltir i’r gogledd ddwyrain o Aberystwyth.

Mae yn Sir Ceredigion.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch ffordd A487 o Aberystwyth i gyfeiriad Machynlleth.

Ar ôl 2½ milltir, trowch i'r dde am Benrhyncoch ac ewch yn syth ymlaen pan ddewch at y groesffordd.

Mae'r maes parcio ar y chwith mewn ½ milltir, ar ôl mynd heibio’r tai gwydr mawr.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Gogerddan ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 633 836.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.

Mae’r gwasanaeth bws o Aberystwyth i Penrhyncoch yn stopio yn fynedfa Prifysgol Aberystwyth, yn agos iawn i faes parcio Coed Gogerddan.

Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf