Y Bwa, ger Aberystwyth

Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda golygfeydd dros fryniau

Beth sydd yma

Mae’r safle hwn a’r cyfleusterau ymwelwyr ar agor - rhagor o fanylion ar gael ar y we-dudalen hon.

 

Diweddariad coronafeirws

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau cenedlaethol o ddydd Llun 9 Tachwedd.

 

Maent yn berthnasol i bawb sy'n byw neu'n teithio yng Nghymru.

 

Mae ein safleoedd a mwyafrif ein cyfleusterau i ymwelwyr yn dal ar agor ond cynghorir pobl i osgoi teithiau nad ydynt yn hanfodol gymaint ag y bo modd.

 

Ymweld â'ch safle lleol yn ddiogel

 

Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.

 

Cofiwch wisgo mwgwd pan fyddwch yn mynd i mewn i un o’n hadeiladau.

 

Gallwch gofrestru drwy ap y GIG wrth fynd i mewn i un o'n hadeiladau – sganio'r cod QR ar boster Covid-19 y GIG ar y safle.

 

Croeso

Mae maes parcio a safle picnic Y Bwa wedi’u henwi ar ôl hen fwa maen ysblennydd sy’n sefyll wrth ymyl y ffordd o Bontarfynach.

Fe’i hadeiladwyd yn 1810 i nodi Jiwbili Aur Brenin Siôr III ac ar un adeg roedd y ffordd yn mynd oddi tano. Roedd y bwa ar un adeg yn borth i Ystâd yr Hafod.

Mae yma dri llwybr cerdded byr sy’n arwain drwy goed ffawydd enfawr gafodd eu plannu dros 200 mlynedd yn ôl gan Thomas Johnes a gynlluniodd blasty a thiroedd Hafod gerllaw.

Mae golygfeydd eang o’r olygfan ar y Llwybr Panorama.

Mae byrddau picnic ar y llethr porfa wrth ymyl y maes parcio sy’n edrych dros y bwa. 

Maes picnic ym maes parcio'r Bwa

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Ffawydd Hynafol

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter: ½ milltir/0.8 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 130 troedfedd/40 metr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Taith gymharol gydag un ddringfa serth. Mae’r arwynebedd yn dda yn gyffredinol ond gall fod yn wlyb mewn mannau. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda. Gofynnir am lefel gymharol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon.

Ar y llwybr byr hwn cewch weld coed ffawydd anferth, 200 mlwydd oed, a blannwyd gan ddylunydd Stad yr Hafod, sef Thomas Johnes.

Llwybr Coetir y Bwa

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter: 1 milltir/1.6 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 65 troedfedd/20 metr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Taith gymharol gydag un ddringfa serth. Mae’r arwynebedd yn dda yn gyffredinol ond gall fod yn wlyb mewn mannau. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda. Gofynnir am lefel gymharol o ffitrwydd ar gyfer y daith hon.

Mae Llwybr Coetir y Bwa yn ymlwybro’i ffordd i fyny'r bryn, gan fynd trwy sawl ardal o goed llydanddail.

Mae yma olygfeydd o’r bryniau cyfagos, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle cafodd y coed eu torri’n ddiweddar.

Llwybr y Panorama

  • Gradd: cymedrol
  • Pellter: 1½ milltir/2.5 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 400 troedfedd/120 metr
  • Amser: 1¼ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Taith gymharol gyda nifer o ddringfeydd hir a disgyniadau serth. Bydd yr arwynebedd yn arw ac yn wlyb mewn mannau o bosibl. Argymhellir eich bod yn dod ag esgidiau cerdded gyda gafael dda. Gofynnir am lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y daith hon.

Ar ôl ychydig o waith dringo serth drwy’r grug a’r llus, byddwch yn cyrraedd yr olygfan lle gwelwch fainc a golygfeydd panoramig dros y bryniau cyfagos - ar ddiwrnod clir gallwch weld Cadair Idris nifer o filltiroedd i ffwrdd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen i lawr llethr serth ac yn dychwelyd i'r maes parcio trwy ardaloedd o goed ffawydd enfawr.

Llwybrau cerdded eraill

Mae pum llwybr cerdded cyfeiriedig yn Ystâd yr Hafod gerllaw, sy'n enwog am ei dirwedd "Pictiwrésg". 

Taith Cambria

Mae Taith Cambria (The Cambrian Way) yn mynd heibio i faes parcio'r Bwa.

Mae'r llwybr pellter hir hwn yn croesi rhai o rannau uchaf a mwyaf gwyllt Cymru ar ei daith o'r arfordir yng Nghaerdydd i Gonwy. 

Dysgwch fwy am Daith Cambria.

Safle Darganfod Awyr Dywyll

Y Bwa yn y nos gan Dafydd Wyn Morgan

Y Bwa yw un o’r lleoedd gorau yn lleol i weld y sêr ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Darganfod Awyr Dywyll.

Mae’r Bwa wedi’i leoli ym Mynyddoedd Cambria, lle mae’r awyr dros nos ymhlith y rhai mwyaf tywyll yn Ewrop.

Mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll:

  • i ffwrdd o’r gwaethaf o unrhyw lygredd golau lleol
  • yn fannau lle gellir gweld yr awyr yn glir
  • yn hygyrch i’r cyhoedd, gan gynnwys daear gadarn i gadeiriau olwyn, ac yn gyffredinol gellir mynd atynt drwy’r amser. 

Darllenwch syniadau ynglŷn â rhyfeddu at yr awyr yn y nos ar wefan Partneriaeth Darganfod Awyr Dywyll y DU

Ymladd clefyd coed

Rydym wedi cwympo grwpiau o larwydd a heintiwyd gan y clefyd ffyngol Phytophthora ramorum yn y fan hon i helpu i’w atal rhag lledaenu.

Mae pob un o’r llwybrau cerdded yn arwain trwy lennyrch o goed gafodd eu torri’n ddiweddar ac erbyn hyn mae yma fwy o olygfeydd o'r llwybrau i'r bryniau cyfagos.

Darllenwch fwy am iechyd coed yng Nghymru

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae maes parcio'r Bwa 15 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth.

Mae yn Sir Ceredigion.

Map Arolwg Ordnans

Mae'r Bwa ar fap Arolwg Ordnans (AR) 213.

Cyfeirnod grid yr AO yw SN 765 756.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B4574 o Bontarfynach i Gwmystwyth.

Tua thri chilomedr o Bontarfynach byddwch yn mynd heibio i fwa carreg ar y chwith a bydd y maes parcio a'r ardal bicnic ychydig ar ei ôl.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru