Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Coedwig ar y gororau rhwng Cymru a Lloegr
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae hanner Coed Nash yng Nghymru a’r hanner arall yn Lloegr, sy’n dangos yn glir eich bod yn ardal y gororau.
Mae’r llwybr cylchol yn arwain at Olygfa Burfa ac oddi yno ceir golygfeydd dros Goedwig Maesyfed a Burfa Bank, un o’r llu o fryngaerau ar y rhan hon o’r ffin.
Mae Coed Nash yn gynefin coetir delfrydol i weld bwncathod a gweilch Marthin neu efallai y gwelwch bilaod a gyflingroesion sy’n ffynnu ar y conau mawr a gynhyrchir gan y ffynidwydd Douglas urddasol.
Mae’n gyfle da hefyd i weld un o'r nifer fawr o iyrchod sy'n byw yma ac, os dewch draw yn yr hydref, cofiwch gadw llygad yn agored am ffwng lliwgar.
Mae’r llwybr cerdded wedi ei arwyddo o’r maes parcio.
2 filltir/3.3 cilomedr, cymedrol
Mae Llwybr Nash yn dringo'n raddol o'r maes parcio drwy'r coetir i ffordd y goedwig lle ceir golygfeydd bendigedig o Lanandras a thu hwnt hyd at fryniau'r Gororau.
Gellir dewis llwybr byrrach i lawr yn ôl i'r maes parcio neu ddringfa gyson arall i olygfan a mainc Golygfa Burfa.
Oddi yno ceir golygfeydd i'r de dros Ddyffryn Maesyfed a Swydd Henffordd yn y pellter.
Mae Coed Cwningar wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.
Roedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol. Y dyddiau hynny, nid coedwig ydoedd yn yr ystyr fodern o fod yn ardal goediog drwchus, ond yn yr ystyr ganoloesol o fod yn ‘fforest’ sef ardal heb fod yn gaeedig a ddefnyddiwyd i hela ceirw.
Mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion a serth a bryniau’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Black Mixen ar 650 metr (2150 troedfedd).
Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed.
Ewch i Coed Cwningar a Fishpools am fwy o wybodaeth.
Mae maes parcio Coed Nash oddi ar y B4355 ger Llanandras.
Mae yn Sir Powys.
Gallwch barcio am ddim yn y maes parcio.
Dilynwch y B4355 o Drefyclo i Kington. Wrth y gyffordd ‘T’ ychydig cyn Llanandras, trowch i’r chwith ar y ffordd osgoi. Gyferbyn â’r ysgol uwchradd, trowch i’r dde ac mae’r maes parcio i lawr y ffordd hon ar y dde.
Mae Coed Nash ar fap Arolwg Ordnans (AR) 201.
Y cyfeirnod grid OS yw SO 314 635.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhrefyclo.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000