Gelli Ddu, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Croeso

Mae’r Gelli Ddu yn lleoliad tawel wrth ymyl Afon Ystwyth sy’n llifo trwy’r cwm serth hwn ar ei ffordd i Aberystwyth.

Enwyd ar ôl Ystad Trawsgoed, yr oedd unwaith yn rhan ohoni - ystyr ‘covert’ yn yr enw Saesneg Black Covert, yw ardal i fagu adar helwriaeth, ac yn yr achos yma esantod gan fwyaf.

Mae Llwybr Glan yr Ystwyth yn llwybr hawdd drwy goetir ffawydd sydd wedi’i orchuddio â chlychau’r gog yn y gwanwyn.

Mae Llwybr Coed Allt Fedw, sy’n fwy egnïol, yn mynd i fyny at olygfan ar fryngaer sy'n 2000 o flynyddoedd oed.

Mae yna lwybr marchogaeth byr hefyd.

Mae yna ardal bicnic o dan gysgod coed ynn, bedw a chastanwydd pêr mawr.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Glan yr Ystwyth

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.7 milltir/2.7 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Dringo: 17 troed/ 5 medr
  • Gwybodaeth am y llywbr: Mae’r llwybr yn rhwydd ond byddwch yn dod ar draws rhai grisiau a gwreiddiau. Bydd yr arwyneb yn arw ac efallai’n wlyb mewn mannau. Argymhellir esgidiau cerdded sydd â gafael dda. Nid oes dringfeydd dros 17tr / 5m. Bydd angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer y llwybr hwn.

Mae’r llwybr hwn yn cynnig taith gerdded ysgafn ar hyd afon Ystwyth sy’n dychwelyd drwy goedwig sy’n llawn arogl resin.

Mae clychau’r gog yn gorchuddio’r ddaear o dan y coed ffawydd yn y gwanwyn ac mae yna lawer o yngau yn yr hydref.

Efallai y byddwch ddigon odus i gael cip ar las y dorlan yn gwibio heibio.""

Llwybr Coed Allt Fedw

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.2 milltir/3.5 cilomedr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Llwybr cymedrol gyda rhai dringfeydd hir a disgyniadau serth. Bydd yr arwyneb yn arw ac efallai’n wlyb mewn mannau. Mae mainc â olygfan. Argymhellir esgidiau cerdded sydd â gafael dda. Bydd angen lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y daith gerdded hon. Cymerwch ofal ar y rhan 200 metr o’r llwybr sy’n mynd ar hyd y ffordd ger y maes parcio.

Mae'r llwybr yn mynd heibio llyn deniadol ac wedyn i fyny fryngaer Allt Fedw sy'n 2000 o flynyddoedd oed.

Mae mainc â olygfan ac yma gallwch edrych ar y golygfeydd panoramig ar hyd bryniau a dyffrynnoedd tonnog y holl ffordd i Bumlumon, sef mynydd uchaf Canolbarth Cymru.""

Llwybr Marchogaeth

Llwybr Marchogaeth Allt Fedw

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3.5 miles/5.6 cilomedr
  • Amser: 1 awr o gerdded
  • Gwybodaeth am y llwybr: Ar ôl cychwyn ar ffordd goedwig, yn y man byddwch yn mynd drwy giât at lwybrau meddal. Ar ôl rhan sy’n esgyn yn serth (tua 70m o hyd), byddwch yn dal i ddringo ar dir llai serth nes ichi gyrraedd pwynt uchaf y llwybr ger bryngaer Allt Fedw. Oddi yno, mae rhagor o lwybrau meddal tan y pwynt hanner ffordd, ac wedi hynny byddwch yn dilyn ffordd goedwig yr holl ffordd yn ôl i’r man cychwyn. Gall y llwybr fod yn fwdlyd a llithrig mewn mannau.

Mwynhewch amrywiaeth o arwynebau, coetiroedd ac ardaloedd agored ar y llwybr hwn, sydd â golygfeydd pell y tu hwnt i’r coetir.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Gelli Dduyn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gelli Ddu 9 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Mae yn Sir Ceredigion.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gelli Ddu ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 667 729.

Cyfarwyddiadau

Cymrwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.

Ar ôl Abermagwr, trowch i’r dde dros y bont (sydd ag arwydd yn dweud Llanilar B4575), ac yna trowch yn syth i’r chwith ac i’r chwith eto i mewn i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Aberystwyth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf