Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Cae’n y Coed yn safle picnic mawr ger Betws-y-coed ar yr A5.
Ceir byrddau o amgylch y maes parcio ger y brif ffordd ac mae digon o le i blant chwarae hefyd.
Mae'r llechwedd uwchben y maes parcio yn gartref i "ardd goedwig" a blannwyd â choed o bob cwr o'r byd yn y 1930au.
Dilynwch ein llwybr sydd wedi’i arwyddo heibio i ardd goedwig i fwynhau panorama mynydd syfrdanol gyda Moel Siabod yn erbyn cefndir mynyddoedd Carneddau.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r dringo serth ar ddechrau’r daith gerdded yn werth yr ymdrech wrth ichi ddilyn eich ffordd drwy goed godidog ac anarferol yn yr hen goedfa.
Cewch gipolwg ar Gwm Llugwy wrth ichi ddringo, ond dim ond blas yw’r golygfeydd hyn.
Ar ben bryncyn, mae mainc ac yno olygfa banoramig fendigedig draw at Foel Siabod, mynyddoedd Carneddau, ac, ar ddiwrnod clir, gopa Tryfan.
Mae Cae'n y Coed ym Mharc Coedwig Gwydir.
Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.
Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.
Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.
Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae Cae’n y Coed 2 filltir i’r gorllewin o Fetws-y-coed.
Mae yn Sir Conwy.
Mae Cae’n y Coed ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 17.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 763 576.
Ewch ar yr A5 o Fetws-y-coed tuag at Gapel Curig ac mae’r maes parcio ar y chwith yn union ar ôl y brif fynedfa i’r Rhaeadr Ewynnol.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Betws-y-coed.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.