Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mynydd uchaf Cymru a chartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n rheoli’r maes parcio, y toiledau a’r holl gyfleusterau ar gyfer ymwelwyr – ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleusterau ymwelwyr.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Yr Wyddfa yw copa uchaf mynyddoedd Eryri, yn 1085m (3,560 troedfedd).
Eryri yw unig gartref yn y Deyrnas Unedig i flodyn eiddil lili’r Wyddfa, sy’n tyfu ar wyneb y graig ac mewn cilfachau creigiog.
Ymysg y bywyd gwyllt a welir yma mae geifr gwyllt ac adar ysglyfaethus.
Rheolir y warchodfa mewn partneriaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a thirfeddianwyr lleol.
Mae’r rhan fwyaf o’r Wyddfa’n Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’r llwybrau ar yr Wyddfa yn heriol, yn greigiog ac yn serth mewn mannau.
Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas, a gwiriwch ragolygon y tywydd cyn cychwyn.
Gallwch gael blas ar gerdded ar yr Wyddfa heb fynd yr holl ffordd i’r copa.
Mae’r llwybr hwn yn llydan a gwastad, ac mae’n dringo’n raddol i ddechrau.
Dychwelwch ar hyd yr un llwybr, unwaith y byddwch wedi cyrraedd yr ail lyn, os nad ydych eisiau parhau gyda dringo’n serth i gyrraedd y copa.
Mae sawl llwybr sy’n cychwyn o feysydd parcio amrywiol.
Llwybr Watkin yw’r brif fynedfa arall i’r warchodfa, ond dyma un o’r llwybrau mwyaf heriol i’r copa.
Dysgwch fwy drwy ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Eryri ym Metws-y-coed, neu ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Trên Bach yr Wyddfa’n mynd i’r copa o Lanberis.
Sylwch:
Mae maes parcio Pen y pas 6 milltir i’r de o Lanberis.
Mae yn Sir Gwynedd.
Ewch ar yr A4068 o Lanberis i Gapel Curig ac mae maes parcio Pen y Pas ar y dde, gyferbyn â hostel ieuenctid Pen y Pas. Rheolir y maes parcio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Yr Wyddfa ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid OS SH 647 557 (maes parcio Pen y Pas).
Ffôn: 0300 065 3000