Coedwig Brechfa – Keepers, ger Caerfyrddin

Beth sydd yma

Croeso

Mae maes parcio Keepers wedi’i leoli ger pentref Brechfa.

Dyma'r man cychwyn ar gyfer taith ar lan yr afon trwy Goedwig Brechfa.

Gallwch ddilyn llwybr cerdded llawer hirach trwy'r goedwig i gael golwg agosach ar y tyrbinau anferth Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa hefyd.

Mae lle picnic bach o dan y coed yn y maes parcio.

Mae grwp cymunedol yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau eraill yn yr adeilad drws nesaf i'r maes parcio.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Glan yr Afon Keepers

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2 milltir/3.2 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr cylchol hwn yn mynd drwy’r goedwig yn bennaf. Mae yna rannau byr ar ffyrdd sydd weithiau’n cael eu defnyddio gan lorïau ar gyfer gwaith coedwigaeth. Mae yna rannau mwdlyd ar y llwybrau a rhannau â cherrig rhydd dan draed. Gall y llwybrau fod yn llithrig ar ôl tywydd gwlyb. Ar hyd y llwybr, mae yna rannau byr, serth, i fyny ac i lawr ac mae'r llwybr yn croesi sawl pont, rhai gyda grisiau.

Mae Llwybr Glan yr Afon Keepers yn cychwyn trwy goed conwydd wrth fynd i lawr at Afon Marlais.

Mae'n croesi'r afon dros bont bren ac yna'n dringo ac yn parhau drwy'r goedwig.

Mae'r llwybrau’n dilyn glan yr afon mewn ambell i le a gallwch glywed sŵn y dŵr ar hyd y rhan fwyaf o'r llwybr.

Mae'r llwybr yn croesi cwpl o bontydd eraill dros nentydd tlws wrth ddychwelyd i'r maes parcio.

Llwybr Gwynt a Dŵr

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 12 milltir/19.3 cilomedr
  • Amser: 7-8 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae hwn yn llwybr heriol oherwydd y pellter a’r esgyniad. Mae angen lefel uchel o ffitrwydd ac esgidiau cerdded â gwadnau cadarn. Gall y tywydd newid yn gyflym yn yr ucheldir felly gwnewch yn siwr fod gennych haenau gwrth-ddŵr a dillad cynnes yn eich sach gefn. Mae yna ffordd gynt yn ôl at y maes parcio sy’n defnyddio Llwybr Cyswllt y Fonesig Megan a ddangosir ar y map sy’n byrhau’r llwybr i 7½m/12.3km, ond sy’n hepgor cwm prydferth Afon Pib. Gallwch hefyd gysylltu â'r llwybr hwn ofaes parcio Tower trwy ddilyn rhan o Daith Gerdded Cwm Marlais a llwybr cyswllt ond sylwch y bydd y daith gyffredinol yn llawer hirach.

Clywed murmur Afon Pib ac Afon Marlais yn eu cymoedd hardd a gweld nerth anhygoel y tyrbinau gwynt yn agos.

Crëwyd y llwybr cerdded hwn mewn partneriaeth â RWE a ddatblygodd Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa yn y rhan hon o'r goedwig.

Digwyddiadau a gweithgareddau

Mae Pobl y Fforest yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau eraill yn adeilad Keepers drws nesaf i'r maes parcio.

Mae Pobl y Fforest yn gwmni cymunedol a gwirfoddol sy'n cael ei redeg nid-er-elw.

Gweler yr hysbysfwrdd yn y maes parcio am fanylion y digwyddiadau sydd i ddod neu ewch i dudalen Facebook Pobl y Fforest.

Coedwig Brechfa

Coedwig Brechfa yw’r enw modern ar ran o Goedwig hynafol Glyn Cothi.

Roedd Coedwig Glyn Cothi’n cael ei rhedeg am ganrifoedd gan bobl leol i ddarparu deunyddiau adeiladu, gwahanol gynhyrchion a thir pori.

Ym 1283, ar ôl i Gymru gael ei gorchfygu’n derfynol gan Edward I, daeth Glyn Cothi’n Goedwig Frenhinol dan weinyddiaeth Cyfraith y Fforest am ganrifoedd lawer.

Ers y dyddiau hynny mae coedwig dra gwahanol wedi tyfu. Yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ailblannwyd Coedwig Brechfa’n goed conwydd gan y Comisiwn Coedwigaeth i hybu cronfa bren Prydain ar ôl y defnydd trwm o bren yn y Rhyfel Mawr.

Heddiw mae Coedwig Brechfa’n gorchuddio tua 6500 hectar ac yn cael ei rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd pobl, bywyd gwyllt ac i gynhyrchu pren, ac yn fwy diweddar er mwyn cynhyrchu ynni gwynt.

Meysydd parcio eraill yng Nghoedwig Brechfa

Mae llwybrau cerdded a beicio mynydd o'r meysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru eraill hyn yng Nghoedwig Brechfa:

  • Abergorlech - llwybrau drwy’r coed, llwybr beicio mynydd ac arboretwm go wahanol
  • Byrgwm - taith cerdded coetir a llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol fel ei gilydd
  • Gwarallt - taith gerdded fer hawdd drwy goetir ffawydd
  • Tower - taith gerdded drwy'r goedwig gyda golygfeydd o'r dyffryn a mynediad i'r llwybr heibio i dyrbinau gwynt

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Brechfa yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Keepers 13½ milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Keepers ar fap Arolwg Ordnans (OS) Explorer 186.

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 522 319.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar yr A40 o Gaerfyrddin tuag at Landeilo.

Trowch i'r chwith ar y B4310, sydd ag arwydd i Frechfa.

Ym mhentref Brechfa trowch i'r chwith wrth siop y pentref sydd ag arwydd i New Inn.

Mae maes parcio Keepers 1½ milltir lawr y lôn fach hon, ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Caerfyrddin.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf