Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, ger Abertawe

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich wedi'i lleoli ar arfordir deheuol Gŵyr, dim ond 11 milltir o Abertawe.

Mae’r warchodfa’n cynnwys cyfuniad hudolus o draethau, twyni tywod, llynnoedd, coetir, clogwyni, morfa heli a chorsydd dŵr croyw – yn wir, mae’n anarferol cael cymaint o wahanol gynefinoedd mewn ardal mor fechan yn y DU.

Mae Bae Oxwich yn un o draethau mwyaf poblogaidd Gŵyr, yn enwedig yn ystod yr haf ac mae'r traeth tywod hir hwn wedi cael ei gydnabod ddwywaith fel Traeth y Flwyddyn y DU. 

Mae llawer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traeth gwych, ond os cerddwch chi ychydig i mewn i’r tir o'r traeth hardd yma cewch eich gwobrwyo gan fywyd gwyllt yn y twyni.

Diolch i'w amrywiaeth o gynefinoedd, mae Oxwich yn gartref i ystod amrywiol o fywyd gwyllt, gan gynnwys creaduriaid prin a blodau gwyllt lliwgar.

Ymweld â Oxiwch

Mae'r brif fynedfa i'r warchodfa a'r maes parcio yn eiddo i Ystâd Pen-rhys.

Mae'r ystâd yn berchen ar, ac yn gofalu am ran o draeth Oxwich a hefyd yn darparu cyfleusterau i ymwelwyr gan gynnwys toiledau a siop traeth.

Hefyd mae bwyty ar y traeth ger y maes parcio.

Ewch i wefan Ystad Pen-rhys am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y maes parcio ac y cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr.

Llwybrau cerdded

Mae yna ddau lwybr cerdded cylchol. Mae'r ddau yn mynd â chi drwy'r twyni, lle mae merlod yn pori drwy'r flwyddyn.

Llwybr Twyni a Thraeth

3 milltir, 4.8km, cymedrol

Mae'r llwybr hwn yn dechrau ger y ciosg wrth fynedfa’r maes parcio. Mae'n dilyn rhan o Lwybr Arfordir Cymru drwy'r twyni tywod - edrychwch am degeirianau a blodau gwyllt yn yr haf. Mae'n dychwelyd ar hyd y traeth tywodlyd.

Llwybr Coed Nicholaston

2½ milltir, 4km, cymedrol

Mae'r llwybr hwn yn cychwyn o lecyn bach wrth fynedfa'r goedwig, neu gallwch ymuno â hi trwy ddilyn rhan gyntaf y Llwybr Twyni a Thraeth. Mae golygfeydd syfrdanol o Fae Oxwich o'r hen goetir heddychlon hwn sydd wedi'i orchuddio â blodau yn y gwanwyn. Mae'r llwybr yn gul ac yn serth mewn mannau, gydag arwynebau anwastad a grisiau ar yr ardaloedd mwyaf serth.

Llwybrau eraill

I gyrraedd y guddfan adar, edrychwch am y panel Whitestones yn y warchodfa. O'r fan hon, cerddwch am ryw 100m i giât mochyn a chroesi'r ffordd. Ewch trwy giât mochyn arall ar y llwybr byrddau sy'n eich tywys dros y gors dŵr croyw a’r gwelyau cyrs tuag at y guddfan.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy'r twyni ac ymyl Coedwig Nicholaston.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Oxwich yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Blodau gwyllt

Gellir gweld tegeirianau gwyllt yn y twyni ddiwedd Mai a Mehefin. Mae cregyn wedi’u malu o'r traeth yn chwythu i’r mewndir ac yn darparu pridd sialc iddynt, sy’n ddelfrydol.

Yn y llaciau (y cloddiau llaith rhwng y twyni), edrychwch am y crwynllys Cymreig prin a phlanhigion anghyffredin eraill fel glesyn-y-gaeaf deilgrwn.

Pryfed

Mae cyfoeth y blodau gwyllt yn y warchodfa yn cynnal llawer o loÿnnod byw a phryfed eraill.

Mae poblogaeth o'r glöyn byw bach glas a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae rhywogaethau prin eraill yn cynnwys y chwilen beachcomber  a'r gwas neidr flewog sy'n byw yn yr ardal gorsiog.

Bywyd adar

Mae'r llynnoedd a'r morfa yn Oxwich yn hafan i fywyd adar.

Mae'r llynnoedd yn darparu cynefin gaeafu i adar gwyllt a'r crwydryn achlysurol fel adar y bwn.

Cadwch lygad allan am hwyaid, rhegennod dŵr, gwyachod bach a ieir dŵr o'n cuddfan adar ger y llyn yn y Whitestones, lle allwch fynd ato ar hyd llwybr pren ar draws y gors dŵr croyw a'r gwelyau cyrs.

Ystlumod

Mae'r cyfuniad o gorsydd, llynnoedd a choedwigoedd yn golygu llefydd clwydo da a dewisiadau cyfoethog i ystlumod.

Yn ystod y nos ac yn y bore mae arddangosfa ysblennydd o ystlumod yn y coetiroedd wrth iddynt chwilio am bryfed.

Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol yng Nhgymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Peidiwch â phalu tyllau neu dwneli yn y twyni tywod – mae tywod yn gallu dymchwel a’ch mygu chi.
  • Byddwch yn ymwybodol o fwd/tywod meddal sy’n suddo a pheidiwch â mynd allan i’r foryd – mae’r llanw yn gallu eich ynysu’n gyflym.
  • Gwiriwch amseroedd y llanw.
  • Peidiwch â chffy­wrdd ag unrhyw weddillion milwrol – gallent ­rwydro! Rhowch wybod i’r Heddlu am unrhyw wrthrychau amheus drwy ­onio 999.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Cyfyngiadau cŵn tymhorol

Cadwch gwn ar dennyn:

  • o fis Mawrth tan fis Gorennaf i ddiogelu adar sy’n nythu ar yr arfordir ac ar laswelltir
  • yn ystod diwedd yr hydref a’r gaeaf ar y morydau i warchod adar gwyllt sy’n gaeafu.

Amseroedd agor

Ystâd Pen-rhys sy’n berchen ar y maes parcio,y toiledau a'r cyflesterau ymwelwyr. 

Ewch i wefan Ystad Pen-rhys am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y  cyfleusterau ymwelwyr.

Newidiadau i lwybrau

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich 11 milltir i’r gorllewin o Abertawe.

Mae yn Sir Abertawe.

Map Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich ar fap Arolwg Ordnans (AR) 164.

Y cyfeirnod grid OS yw SS 501 865.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A4118 o Abertawe tuag at Gŵyr a Phorth Eynon.

Parhewch trwy Benmaen a Nicholaston a throi i'r chwith ar ôl yr eglwys, wrth ymyl adfail, i lawr ffordd fach sydd ag arwyddion at Oxwich a Slade.

Bydd y maes parcio mawr ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r orsaf drenau agosaf yn Nhre-gŵyr.

Mae yna wasanaeth bws o orsaf fysiau a gorsaf reilffordd Abertawe.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Ystâd Pen-rhys sy’n berchen ar y maes parcio.

Mae'n agored yn dymhorol ac mae'r pris yn amrywio.

Ewch i wefan Ystâd Pen-rhys i ddysgu mwy am y trefniadau parcio a mynediad i gerbydau camper vans, cychod a jet-sgis.

Manylion cyswllt

Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Oxwich PDF [17.9 MB]

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf