Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Archwiliwch dapestri cyfoethog o gynefinoedd sy’n amrywio o goetir hynafol i laswelltir llawn blodau ar ein taith gerdded gylchol drwy Warchodfa Natur Genedlaethol Carmel.
Mae calchfaen wedi cael ei gloddio yn y dyffryn hwn ers yr Oesoedd Canol ac mae'r golygfeydd estynedig o ben y chwarel segur yn werth y ddringfa serth.
Mae'r warchodfa yn gartref i ‘dirlyn’, sef llyn tymhorol prin sy'n llenwi â dŵr yn y gaeaf ac yn gwacáu yn y rhan fwyaf o hafau.
Nid oes unrhyw nentydd yn llifo i mewn nac allan ohono a’r unig ddŵr sy’n ei fwydo yw dŵr daear mewn tyllau yn y calchfaen gwaelodol.
Ceir ardal bicnic fechan gyda dau fwrdd picnic ger y maes parcio.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru sy’n gofalu am rannau gorllewinol y warchodfa ger pentref Carmel.
Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r daith gerdded gylchol hon yn dringo i ben y chwarel ble gallwch chi werthfawrogi’r golygfeydd.
Yna mae’n pasio drwy goedwig, sy’n llawn clychau’r gog yn y gwanwyn, i’r tirlyn (llyn tymhorol).
Mae’r dirwedd a’r bywyd gwyllt yn amrywio yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel gan ddibynnu ar ba adeg o’r flwyddyn y byddwch yn ymweld â hi - dyma’r hyn y dylech chwilio amdano.
Mwynhewch garpedi o glychau'r gog, bresych y cwn, craf y geifr a blodau’r gwynt yn y goedwig.
Ewch i chwilio am degeirianau wrth ymyl y llwybr i'r chwarel.
Mae cannoedd o ly antod yn heidio i'r llyn i silio yn y gwanwyn (gan fentro croesi'r ordd yn y nos!).
Chwiliwch am blanhigion prin fel lili’r dy rynnoedd, cwlwm cariad a’r deintlys yn y goedwig.
Mwynhewch flodau'r glaswelltir calchfaen fel pys-y-ceirw, y penrhudd, troed-y-golomen a chlychau’r eos.
Chwiliwch yn ofalus am adar y coetir fel y dringwr bach, y gnocell fraith fwyaf a’r tingoch.
Fforiwch am yngau yn y goedwig a chapiau cwyr llachar yn y glaswelltiroedd.
Mwynhewch liwiau’r hydref a chiciwch dipyn o ddail.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel bum milltir i’r de-orllwein o Landeilo, oddi ar yr A476.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel ar fap Arolwg Ordnans (AR) 178.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans yw SN 605 164.
O Landeilo: Ewch ar yr A476 o Landeilo i Lanelli. Ewch trwy bentref Carmel ac, ar ôl ⅓ milltir, wrth y groesffordd groesgam trowch i’r chwith, arwydd Llandybie. Dilynwch y ffordd hon am filltir ac mae maes parcio’r warchodfa ar y chwith cyn cyffordd.
O Lanelli: Ewch ar yr A476 o Lanelli i Landeilo. Ym mhentref Carmel, anwybyddwch yr arwydd mawr brown a gwyn am y warchodfa natur cyn cyrraedd pentref Carmel (sy’n mynd â chi i ran orllewinol y warchodfa sy’n cael ei gwarchod gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru) a chymerwch y troad nesaf i’r dde syth yn ôl yr arwydd hwn, sydd ag arwydd i Landybie. Dilynwch y ffordd hon am filltir ac mae maes parcio’r warchodfa ar y chwith cyn cyffordd.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llandybie.
I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae gan y maes parcio bach ddigon o le i bedwar o geir.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.