Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor, ger Aberteifi

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coedmor yn un o weddillion coedwig enfawr a oedd yn bodoli tan y canol oesoedd.

Cliriwyd y goedwig yn raddol ar gyfer amaethyddiaeth a dim ond y coetiroedd yng ngheunant serth afon Teifi sydd wedi goroesi.

Mae Coedmor bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol i ddiogelu'r coetiroedd derw prin hyn a'u bywyd gwyllt.

Mae yna lwybr byr i lawr drwy’r ceunant at yr afon.

Llwybr cerdded

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Ceunant

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: ¼ milltir/0.5 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr o’r gilfan yn gorffen pan fyddwch yn cyrraedd glan yr afon. Bydd rhaid i chi ddychwelyd ar hyd yr un llwybr. 

Dilynwch y llwybr byr ond serth i lawr drwy’r ceunant llaith a serth ar lan afon Teifi.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Coedmor yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

  • Derw mes digoes yw’r prif fath o goeden ar lethrau serth y ceunant ond gallwch hefyd weld coed ffawydd, pisgwydd dail bach, ynn, llwyfenni llydanddail, coed masarn a cherddin gwyllt.
  • Mae dros 200 o rywogaethau o gen yn ffynnu yn amodau llaith y ceunant.
  • Mae dwrgwn yn defnyddio’r afon a’i glannau, ac yn hwyr yn y gwanwyn mae’r coetiroedd yn denu telor y coed, y tingoch a’r gwybedog brith sy’n dair rhywogaeth gyffredin yng nghoedwigoedd derw’r ucheldir.
  • Cofnodwyd 31 math o löyn byw yn y warchodfa ac o'i chwmpas, yn bennaf yn yr ardaloedd bach o ddolydd corsiog.
  • Yn yr hydref mae yna amrywiaeth anhygoel o ffyngau yma.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Gerddi Plas Coedmor

Cafodd gerddi Plas Coedmor eu gosod yn yr arddull Pictiwrésg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac erbyn hyn maen nhw'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Coedmor.

Mae'r plas dan berchnogaeth breifat ond gallwch gerdded drwy'r gerddi a darganfod yr hen nodweddion, a'r llwyni a’r coed egsotig.

Mae'r gerddi wedi'u gosod mewn ardal gymharol wastad o'r warchodfa yn y coetir uwchben y ceunant serth.

Mae llwybrau gyda grisiau a phontydd yn mynd drwy'r coetir ac mae yna blatfform lle gallwch edrych i lawr ar yr afon drwy'r coed.

Cofiwch barchu preifatrwydd trigolion y plas ac osgoi ardaloedd sydd wedi eu marcio fel rhai preifat.

I fynd i mewn i'r gerddi mae ardal barcio fach tua hanner milltir ar hyd y ffordd o'r gilfan ar ddechrau Llwybr y Ceunant - mae arwydd yn yr ardal barcio sydd â map a gwybodaeth am beth i'w weld.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae llethrau serth a gall fod yn llithrig dan droed mewn amodau gwlyb.
  • Byddwch yn ofalus o’r afon – mae’n arbennig o beryglus ar ôl glaw trwm pan fydd yn gallu llifo’n gyflym neu orlifo’i glannau.
  • Arhoswch o fewn y warchodfa a pheidiwch mentro i’r ardaloedd ‘preifat’.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor ddwy filltir i’r de-ddwyrain o Aberteifi.

Mae ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor ar fap Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) 198 ac OL35.

Y cyfeirnod grid OS ar gyfer y gilfan ar ddechrau Llwybr y Ceunant yw SN 196 445.

Y cyfeirnod grid OS ar gyfer yr ardal barcio fach yng ngerddi Plas Coedmor yw SN 195 436.

Cyfarwyddiadau

O Aberteifi, cymerwch yr A484 tuag at Gaerfyrddin.

Ar ôl ychydig dros un filltir, trowch i’r dde ar y groesffordd ar ffordd ddienw sy’n dod yn ffordd untrac ar ôl ychydig.

Parhewch am hanner milltir arall ac mae’r ardal barcio ar ddechrau Llwybr y Ceunant ar y dde – edrychwch am yr arwydd sydd â map a gwybodaeth am beth i’w weld.

I ymweld â’r gerddi ym Mhlas Coedmor, parhewch ar hyd y ffordd am chwarter milltir.

Ychydig cyn i’r ffordd droi’n dynn i’r chwith, parhewch yn syth ymlaen i gyrraedd trac.

Gyrrwch yn ofalus ar hyd y trac hwn am chwarter milltir at yr ardal barcio fach ar gyfer y gerddi – edrychwch am yr arwydd sydd â map a gwybodaeth am beth i’w weld.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Clunderwen.

I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Mae dwy ardal barcio fach y gallwch gerdded i mewn i’r warchodfa ohonynt:

  • Cilfan ar is-ffordd ar ddechrau Llwybr y Ceunant
  • Ardal barcio sydd â lle ar gyfer dau gar wrth fynedfa gerddi Plas Coedmor

Mae’r ddwy ardal barcio ar is-ffordd, tua hanner milltir oddi wrth ei gilydd – gweler yr adran ar sut i gyrraedd ar y dudalen hon.

Sylwch fod y ddwy ardal barcio’n fach, yn enwedig yr un wrth fynedfa gerddi Plas Coedmor.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf