Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Coetiroedd Talyllychau’n edrych dros un o bentrefi hanesyddol Sir Gaerfyrddin a ffurfiodd o gwmpas abaty.
Ceir golygfeydd o adfeilion yr abaty o'r tri llwybr cerdded.
Mae hyd y llwybrau cerdded yn amrywio ond maen nhw i gyd yn arwain at yr un olygfan lle ceir mainc bicnic.
Mae’r golygfeydd o’r olygfan hon yn arbennig ac yn werth y ddringfa serth ond gwisgwch esgidiau addas!
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dringwch i fyny'n serth drwy hen ardd goed, gan gadw llygad am y coed derw, ynn, pinwydd a phyrwydd enfawr.
Mwynhewch y golygfeydd o'r olygfan lle ceir mainc.
Yna mae'r llwybr yn disgyn i lawr llethr sydd wedi’i orchuddio â rhedyn ac eithin yn ôl i'r maes parcio.
Dringwch i fyny bryn sy’n frith o lwyni eithin ar lwybr igam-ogam sy’n cynnig golygfeydd eang o bentref Talyllychau a thu hwnt.
Wrth i chi groesi cae ar y ffordd at giât, mae golygfeydd agored o Ddyffryn Cothi’n ymddangos ar y dde i chi.
Mwynhewch y golygfeydd o'r olygfan, yna bydd y llwybr yn disgyn yr holl ffordd i'r maes parcio.
Dringwch y ffyrdd coedwig serth a mwynhewch y golygfeydd cyn i'r llwybr fynd i mewn i'r coetir.
Mae'n cyrraedd yr olygfan gyda mainc ac yna'n dirwyn ei ffordd i lawr y rhiw yn ôl i'r maes parcio.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coetiroedd Talyllychau 10 milltir i'r gorllewin o Lanymddyfri.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Coetiroedd Talyllychau ar fap Explorer 186 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 631 328.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llangadog.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Dilynwch yr A40 o Lanymddyfri i Lanwrda.
Trowch i’r dde i’r A482 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan ac ar ôl 6½ milltir dilynwch ffordd B4302 i Dalyllychau.
Dilynwch arwydd brown a gwyn i’r abaty yn Nhalyllychau.
Ewch heibio’r abaty ac mae'r fynedfa i Goetiroedd Talyllychau a’r ardal parcio ar y chwith.
Gallwch barcio mewn cilfan barcio bach wrth y fynedfa i’r coed.
Cofiwch barcio’n ofalus gan adael agoriadau’r gatiau’n glir i roi mynediad brys i’r coed.
Gallwch barcio yno am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.